Home > Myfyrwyr Newydd 26/27 > Gwybodaeth i Rieni > Helpu eich Person Ifanc Gyda’u Cyfnod Pontio
Mae dechrau coleg yn gam cyffrous ond mae’n hollol normal i bobl ifanc a’u rhieni i deimlo’n nerfus hefyd.
Cyn iddyn nhw ddechrau
Gwirio eu Negeseuon E-bost
Cofiwch atgoffa eich person ifanc i wirio eu negeseuon e-byst yn rheolaidd - bydd y rhan fwyaf o wybodaeth yn cael ei anfon atyn nhw’n uniongyrchol.
Gwnewch yn siŵr bod eich person ifanc yn lawrlwytho ac yn mewngofnodi i "https://cambria.ac.uk/adran-myfyrwyr-newydd/gwybodaeth-groeso/ap-cambria/?lang=cy">App Cambria cyn iddynt ddechrau.
Cofrestru ar gyfer Cludiant
Os oes angen cludiant coleg ar eich person ifanc, rhaid cofrestru eu diddordeb yma. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein cludiant, cliciwch yma.
Edrych ar Gymorth Ariannol
Gwiriwch os ydyn nhw’n gymwys am gymorth ariannol fel Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) neu'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF).
Ble i ddod o hyd i gymorth
Edrychwch ar y gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan gynnwys Gwasanaethau Myfyrwyr, Anogwyr Cynnydd, Cymorth Llesiant a Chymorth Dysgu, fel eich bod yn gwybod lle i droi os bydd eich person ifanc eisiau help.
Edrych ar yr Adran Myfyrwyr Newydd
Edrych ar yr Adran Myfyrwyr Newydd - Edrychwch ar weddill ein hadran Myfyrwyr Newydd gyda'ch person ifanc i wneud yn siŵr eich bod wedi gweld y wybodaeth allweddol, y canllawiau a'r adnoddau sydd ar gael cyn iddynt ddechrau yn y coleg fel eu bod yn teimlo'n barod ar gyfer yr wythnosau i ddod.
Sut y Gallwch Chi Helpu
Mae’r cyfnod pontio rhwng ysgol a choleg yn golygu rhagor o annibyniaeth a chyfrifoldeb. Mae’n bosib helpu eich person ifanc drwy:
- Annog presenoldeb a phrydlondeb da
- Siarad yn bositif am y cyfleoedd o’u blaenau
- Eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau
- Eu hatgoffa nhw i ofyn am help os ydyn nhw ei angen
Mae Cymorth ar Gael
Mae’r cymorth canlynol ar gael i unrhyw berson ifanc sy’n ei chael yn anodd setlo:
- Anogwyr Cynnydd
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- Cymorth Llesiant
- Cymorth Dysgu a Gwasanaethau Cynhwysiant
Angen Rhagor o Wybodaeth?
Ewch i’n Cwestiynau Cyffredin Gan Rieni i gael atebion i gwestiynau cyffredin am gludiant, presenoldeb, dyddiadau’r tymor a rhagor.