Home > Croeso Cynhwysiant
Cynhwysiant a Chymorth Dysgu
Pontio i'r Coleg
Bywyd Coleg a Chyfoethogi
Cysylltiadau Allweddol a Gwybodaeth Hanfodol
Gwybodaeth Benodol am y Safle
Cysylltu â Ni a Chwestiynau Cyffredin
Mynd i'r Afael â Phontio
Mae dechrau pontio i’r coleg yn gyfnod cyffrous iawn – ond mae’n gallu bod yn frawychus ac anodd i wybod beth i’w ddisgwyl. Bydd y wybodaeth ar hyn a’r tudalennau canlynol yn rhoi cyngor allweddol i chi, yn eich cyflwyno chi i dimau cymorth ac yn rhoi cysylltiadau allweddol i helpu gyda’ch cyfnod pontio ac wrth i chi ymgartrefu yn y coleg.
Archwiliwch ein timau allweddol isod a gwelwch sut allan nhw eich cefnogi chi drwy eich taith Cambria.
Yma yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n ceisio cefnogi ac addysgu dysgwyr ynglŷn â’u hiechyd meddwl a llesiant. Drwy gyflwyno cefnogaeth iach a thechnegau llesiant i’n trefn bob dydd, rydyn ni’n teimlo’n fwy gwydn.
Rydyn ni’n gwybod bod iechyd a llesiant yn gallu cael effaith sylweddol ar eich profiad yn y coleg.
Mae ein Tîm Iechyd a Llesiant yn angerddol am ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau gorau i chi sy’n hybu eich llesiant ac iechyd meddwl da, gan gynnwys;
- Cefnogaeth gan staff llesiant pwrpasol sy’n ystyriol o drawma ar draws holl safleoedd y coleg
- Pontio personol i’r coleg ac oddi yno
- Hybiau llesiant a hybiau gwib ar draws ein safleoedd gan ddarparu lleoliadau diogel a thawel i chi ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau meddwlgarwch
- Cefnogaeth gan ein Hanogwyr Gwytnwch a chynorthwywyr Llesiant i’ch helpu chi i adnabod a chwalu rhwystrau i ddysgu
- Cwnsela wyneb yn wyneb
- Gweithgareddau iechyd meddwl a llesiant drwy gydol y flwyddyn
- Sesiynau a chefnogaeth iechyd meddwl a llesiant 1:1, wedi’u teilwra’n benodol i fodloni eich anghenion a’ch helpu chi i lwyddo
- Cefnogaeth i oresgyn gorbryder sy’n gysylltiedig â chymdeithasu, mynd i’r coleg neu deithio i’r coleg
- Gweithio amlasiantaeth gan gynnwys atgyfeiriadau a chyfeirio cymdeithasol
Gallai’r holl ddysgwyr gyrchu anogwyr gwytnwch a chwnselwyr allanol fel lefelau ychwanegol o gefnogaeth Iechyd Meddwl.
Mae ein tîm ADY pwrpasol yn gweithio’n agos gyda’r tîm cymorth dysgu a chydlynwyr cymorth i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn eich CDU neu’ch Cynllun Addysg, Llesiant, ac Iechyd (EHCP) ar waith pan fyddwch chi’n cofrestru. Os oes gennych chi CDU/EHCP, siaradwch â’r Cydlynydd Dysgu Ychwanegol ar eich safle chi neu cysylltwch â cdu@cambria.ac.uk.
Mae manylion llawn i’w gweld yma:
Mae’r tîm Anogwyr Cynnydd yma i gefnogi eich dilyniant a datblygiad drwy’r coleg. Mae sesiynau un i un rheolaidd ar gael i’ch helpu chi i gynllunio’ch camau nesaf a thwf personol. Mae’r tîm hefyd yn cyflwyno’r rhaglen MADE, cyfle cyffrous i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y tu hwnt i’r cwricwlwm.
Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol. Gellir rhannu manylion eich anghenion dysgu gyda ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio.
Mae gennym ni amrywiaeth o swyddi o fewn y tîm gan gynnwys tiwtoriaid arbenigol, cydlynwyr cymorth, cymorth wedi’i dargedu, mentoriaid, a chymorth dysgu yn y dosbarth. Gallwch alw heibio i siarad â ni yn yr ardaloedd cynhwysiant neu drwy anfon e-bost at y tiwtor arbenigol yn uniongyrchol.
Mae manylion llawn ar gael yma:
Cymorth Arbenigol ar gyfer Pontio
Bydd y Swyddog Pontio yng Ngholeg Cambria yn eich cefnogi chi wrth i chi bontio i’r coleg.
Gallan nhw ddarparu cefnogaeth bontio bwrpasol ac arweiniad un-i-un i’ch helpu chi i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth i chi ddechrau eich taith yng Ngholeg Cambria.
Mae cefnogaeth ar gael i sicrhau bod pobl sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn pontio’n llyfn i’r coleg ac oddi yno, ac ar draws y coleg. Drwy weithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol, mae’r tîm pontio’n helpu i sicrhau eich bod chi’n symud i’r coleg yn ddidrafferth, gyda’r cymorth cywir yn ei lle i’ch helpu chi i lwyddo yn eich cwrs o’r eiliad rydych chi’n cofrestru.
cdu@cambria.ac.uk
Awgrymiadau da i reoli pontio'n llyfn
Cofiwch dydych chi ddim ar eich pen eich hun - mi fydd pawb bron iawn yn newydd. Mae'n normal i deimlo'n nerfus. Mae newidiadau mawr yn frawychus. Cofiwch fod yn gyffrous hefyd!
Yn wahanol i'r ysgol, rydych chi'n cael dewis y pynciau rydych chi eisiau eu hastudio; ac mae hynny'n meddwl bod gennych chi rywbeth yn gyffredin â'ch cyd-fyfyrwyr ar unwaith!
Mae cyfrifoldeb yn allweddol. Mae disgwyl i chi wneud gwaith cwrs yn eich amser eich hun, a gwneud astudiaeth annibynnol yn eich amser rhydd.
Bydd yr addysgu ddim yn gorffen ar yr union amser sydd wedi'i nodi ar eich amserlen, felly peidiwch â disgwyl gadael yn syth yn ystod adegau prysur; ac ar adegau tawel, efallai mi wnewch chi orffen yn gynnar.
Does dim clychau na seinwyr i ddweud wrthych chi pryd mae dosbarthiadau'n dechrau neu'n gorffen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae angen i chi fod a phryd, fel eich bod chi'n brydlon. Meddyliwch am gael dyddiadur ar gyfer eich diwrnod cyntaf, neu defnyddiwch y calendr ar eich ffôn.
Os ydych chi'n methu dosbarth, bydd angen i chi fynd i ofyn i'ch tiwtor neu gyd-fyfyriwr i weld beth rydych chi wedi'i fethu.
Efallai mai dim ond un neu ddau diwtor fydd gennych chi am y flwyddyn gyfan, felly bydd perthynas dda yn ddefnyddiol.
Cyrraedd pob dosbarth y gallwch chi ydy'r ffordd hawsaf o wneud yn siŵr nad ydych chi'n syrthio ar ei hôl hi ac yn cael eich llethu gan waith.
Os ydych chi'n teimlo'n llethol neu'n anifyr ar y dechrau, mae hyn yn hollol normal, ac nid chi fydd yr unig un. Ceisiwch beidio â chynhyrfu na bod yn rhy galed arnoch chi'ch hun. Siaradwch â'ch tiwtor, cwnselydd, cynorthwyydd Llesiant, neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Angen gwybodaeth yn sydyn? Defnyddiwch y dolenni isod i archwilio adnoddau allweddol fel opsiynau cludiant, cymorth llesiant, a gwasanaethau myfyrwyr.
P’un ai eich bod chi’n cynllunio’ch taith neu’n chwilio am arweiniad, mae popeth sydd ei hangen arnoch chi ar gael ar flaenau eich bysedd.
Holiadur LIFE
Nid yn unig y mae Holiadur LIFE yn ein helpu ni i ddeall profiadau unigol ond mae hefyd yn rhoi mewnwelediadau ar y cyd i ni sy’n llunio’r amgylchedd dysgu ar gyfer cymuned gyfan y coleg.
Mae eich cyfranogiad a’ch adborth yn cyfrannu at greu awyrgylch cefnogol a diddorol i bawb. Mae cymryd rhan yn Holiadur LIFE yn hawdd! Cliciwch ar ddolen yr holiadur pan fyddwch chi’n cael yr e-bost, a chewch chi eich tywys trwy gyfres o gwestiynau na fydd yn cymryd mwy na 10 munud i’w cwblhau.
Diolch i chi am fod yn rhan hanfodol o’n cymuned ddysgu. Bydd eich mewnbwn trwy Holiadur LIFE yn ein helpu i barhau i ddarparu’r profiadau dysgu gorau posibl i chi ac eraill.
llesiant@cambria.ac.uk
Rhaglen MADE
Mae rhaglen MADE yn cael ei ei chyflwyno gan Anogwyr Cynnydd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Nod rhaglen MADE ydy codi ymwybyddiaeth dysgwyr o’u lle yn y byd ac adeiladu eu gwybodaeth a’u hunan-effeithiolrwydd, gan ddatblygu eu sgiliau a’u nodweddion personol, cymdeithasol ac ymddygiadol.
Caplaniaeth
Efallai nad ydy pawb yn gyfarwydd efo’r gair caplaniaeth, ond mae’n syml iawn, mae caplaniaeth yn bodoli i helpu’r holl staff a dysgwyr i deimlo eu bod yn gysylltiedig ac yn cael eu gwerthfawrogi o fewn cymuned ein Coleg. Mae’r gaplaniaeth yn gweithio ochr yn ochr â’n timau cymorth i helpu i wneud Coleg Cambria yn lle cefnogol a chynhwysol i ddysgu a gweithio. Rydyn ni bob amser yn chwilio am eich syniadau a’ch awgrymiadau am bethau y gallem fod yn eu gwneud yn well, neu feysydd yr hoffech i’r Gaplaniaeth eu harchwilio.
Rydyn ni’n cynnig llawer o wahanol brosiectau a chymorth gan gynnwys:
Llesiant Ysbrydol
Gweithdai a digwyddiadau yn edrych ar ysbrydolrwydd a hunaniaeth
Byw yn y Gwyllt
Archwilio ysbrydolrwydd trwy sgiliau coedwig a chyfarfyddiadau â natur
Ymwybyddiaeth Aml-ffydd
Gweithdai ac adnoddau rhyngweithiol ar holl brif grefyddau’r byd, gan gynnwys digwyddiadau i nodi gwyliau crefyddol a diwrnodau arwyddocaol y byd o Balchder i Ddiwrnod Cofio’r Holocost
Cefnogaeth Ffydd
Gan gynnwys cyngor arbenigol, ystafelloedd gweddi a chefnogaeth gweddi, cymorth mewn argyfwng ffydd a rhagor
Cymorth Mentora
Mae gwahanol fathau o gefnogaeth ar gael, o baned a chlust i wrando i weithgareddau grŵp mewn chwaraeon, lletygarwch neu sgiliau coedwig.
chaplaiaeth@cambria.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr a Gwybodaeth Ymarferol
Os ydych chi’n teimlo mewn perygl neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, gallwch siarad ag unrhyw aelod o staff, a fydd yn eich cynorthwyo chi, gan gynnwys ceisio cymorth ein Tîm Diogelu.
📧 diogelu@cambria.ac.uk
📞 0300 30 30 009
Rydyn ni’n darparu ystod eang o adnoddau print a digidol i gefnogi’ch gwaith cwrs, gan ddarparu ar gyfer eich dewisiadau ac arddulliau dysgu unigol. Dyma rai o’r pynciau y gallwn ni eich helpu chi gyda nhw:
- Cynllunio a threfnu’ch amser
- Technegau arholiadau ac adolygu
- Creu aseiniadau effeithiol
- Ymchwilio a darganfod gwybodaeth
- Sgiliau cyflwyno
- Sgiliau digidol
- Meddwl yn feirniadol
Cysylltwch â’n tîm gydag unrhyw gwestiynau am ein hadnoddau neu gymorth sgiliau academaidd.
Os ydych chi’n mynd i fod yn absennol o’r coleg, gallwch chi roi gwybod am hyn ar-lein gan ddefnyddio ein ap myfyrwyr. Os na allwch chi wneud hynny, ffoniwch y rhif isod o 8am ymlaen, a bydd ein staff yn eich cynorthwyo.
Pan rydych chi’n ffonio, darparwch y canlynol:
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Rhif myfyriwr
- Pynciau rydych chi’n eu hastudio
- Rheswm dros yr absenoldeb
- Dyddiad rydych chi’n disgwyl dychwelyd
- Rhif cyswllt
Gall rhieni neu warcheidwaid hefyd roi gwybod am absenoldebau drwy ddilyn yr un camau.
Rydyn ni’n deall yr heriau y mae gofalwyr a gofalwyr ifanc yn eu hwynebu ac rydyn ni wedi ymrwymo i wella eich profiad fel myfyriwr yng Ngholeg Cambria. Rydyn ni wedi cyflawni’r Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n timau.
📧 gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk
📧 gofalwyrifanc@cambria.ac.uk
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Angen gwybodaeth yn sydyn? Defnyddiwch y dolenni isod i archwilio adnoddau allweddol fel opsiynau cludiant, cymorth llesiant, a gwasanaethau myfyrwyr.
P’un ai eich bod chi’n cynllunio’ch taith neu’n chwilio am arweiniad, mae popeth sydd ei hangen arnoch chi ar gael ar flaenau eich bysedd.
Cysylltiadau Allweddol Cynhwysiant
I gysylltu â’r tîm cymorth dysgu, anfonwch e-bost at wellbeing@cambria.ac.uk.
| Ymarferydd Iechyd Meddwl a Llesiant | Mae Ymarferydd Iechyd Meddwl a Llesiant ar gael yng Ngholeg Cambria i gynnig cefnogaeth ac arweiniad. Gallan nhw ddarparu lle diogel i siarad, eich helpu i ymdopi â heriau, a’ch cysylltu ag adnoddau pellach os oes angen. Mae croeso i chi gysylltu am gefnogaeth. |
| Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant | Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n credu y dylai addysg a gwaith gefnogi eich iechyd, nid ei herio. Mae amrywiaeth o gefnogaeth iechyd meddwl a llesiant ar gael, ac mae yna bob amser rywun i siarad â nhw pan fydd ei angen arnoch chi. |
| Swyddog Pontio Iechyd Meddwl a Llesiant | Bydd y Swyddog Pontio yng Ngholeg Cambria yn eich cefnogi yn ystod eich cyfnod pontio i’r coleg. Gallan n ddarparu cefnogaeth bontio bwrpasol ac arweiniad un-i-un i’ch helpu chi i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth i chi ddechrau eich taith yng Ngholeg Cambria. |
| Ymgynhorwyr Llesiant | Fel Ymgynghorwyr Llesiant Safle, rydyn ni’n cyflwyno ac yn cefnogi gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant ein dysgwyr. Rydyn ni wedi’n lleoli yn ein Hwb Llesiant. Rydyn ni hefyd yn cefnogi dysgwyr i gyrchu’r gefnogaeth gywir ac yn eu cyfeirio at wasanaethau perthnasol. |
I gysylltu â’r tîm cymorth dysgu, anfonwch e-bost at cymorthdysgu@cambria.ac.uk.
| Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol (ALSCO | Mae Cydlynwyr Cymorth Dysgu Ychwanegol (ALSCOs) Coleg Cambria yma i’ch cefnogi chi trwy’ch cyfnod pontio i’r coleg ac oddi yno. Maen nhw’n trefnu ac yn rheoli’r gefnogaeth a’r addasiadau rhesymol y gallech chi fod eu hangen, gan eich helpu i fod mor annibynnol a llwyddiannus â phosibl trwy gydol eich amser yn y coleg. |
| Cynorthwyydd Cynhwysiant Arweiniol | Mae cymorth wedi’i dargedu ar gael i’ch helpu i ddatblygu strategaethau a thechnegau i gefnogi eich astudiaethau. Gellir darparu sesiynau un-i-un a grŵp i’ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau dysgu a chyrraedd eich potensial llawn. |
| Mentor ASD (Awtistiaeth) | Mae ein mentoriaid ASD pwrpasol yma i’ch helpu chi. Hoffech chi ymweld â’r coleg cyn i chi ddechrau neu angen arweiniad ar reoli bywyd coleg o ddydd i ddydd? Mae cymorth ar gael i’ch helpu i adeiladu strategaethau, magu hyder, a chyfleu eich anghenion gyda thiwtoriaid. Pa bynnag gymorth sydd ei angen arnoch chi, mae cymorth yma i wneud eich taith trwy’r coleg yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil. |
| Tiwtoriaid Arbenigol ADY | Fel tiwtoriaid arbenigol, rydyn ni’n gweithio gyda chi a thimau cwricwlwm i wneud yn siŵr bod gennych chi’r cymorth cywir. Rydyn ni’n darparu asesiad cychwynnol, sgrinio a strategaethau yn ogystal â threfniadau mynediad i arholiadau a chymorth uniongyrchol hefyd. |
| Arbenigwr Pontio ac Adolygu CDU | Mae cymorth ar gael i sicrhau pontio llyfn i’r coleg, ac oddi yno, ac ar draws y coleg i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gan weithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol, mae’r tîm pontio yn helpu i sicrhau bod eich symudiad i’r coleg yn ddi-drafferth, gyda’r cymorth cywir ar waith i’ch helpu i symud ymlaen yn eich cwrs o’r eiliad y byddwch chi’n cofrestru. |
| Cydlynwyr Anogwyr Cynnydd | Mae tîm yr Anogwyr Cynnydd yma i gefnogi eich cynnydd a’ch datblygiad drwy gydol y coleg. Mae sesiynau un-i-un rheolaidd ar gael i’ch helpu i gynllunio’ch camau nesaf a’ch twf personol. Mae’r tîm hefyd yn cyflwyno’r rhaglen MADE, cyfle cyffrous i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y tu hwnt i’ch cwricwlwm. |
I gysylltu â’r tîm cymorth dysgu, anfonwch e-bost at cydraddoldebacamrywiaeth@cambria.ac.uk.
| Arbenigwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth | Mae ein Harbenigwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yng Ngholeg Cambria yma i sicrhau amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb. Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu os oes angen cyngor arnoch chi ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth, mae cymorth ar gael. Ni waeth beth yw eich hil, crefydd, hunaniaeth rhywedd, oedran, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, rydych chi’n aelod gwerthfawr a chyfartal o’n cymuned. |
Cysylltiadau Allweddol y Coleg Ehangach
Os ydych chi’n teimlo mewn perygl neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, gallwch chi siarad ag unrhyw aelod o staff, a fydd yn eich cynorthwyo chi, gan gynnwys ceisio cymorth ein Tîm Diogelu.
Rydyn ni’n darparu ystod eang o adnoddau print a digidol i gefnogi’ch gwaith cwrs, gan ddarparu ar gyfer eich dewisiadau ac arddulliau dysgu unigol. Dyma rai o’r pynciau y gallwn ni eich helpu chi gyda nhw:
- Cynllunio a threfnu’ch amser
- Technegau arholiadau ac adolygu
- Creu aseiniadau effeithiol
- Ymchwilio a darganfod gwybodaeth
- Sgiliau cyflwyno
- Sgiliau digidol
- Meddwl yn feirniadol
Cysylltwch â’n tîm gydag unrhyw gwestiynau am ein hadnoddau neu gymorth sgiliau academaidd.
Os ydych chi’n mynd i fod yn absennol o’r coleg, gallwch chi roi gwybod am hyn ar-lein gan ddefnyddio ein ap myfyrwyr. Os na allwch chi wneud hynny, ffoniwch y rhif isod o 8am ymlaen, a bydd ein staff yn eich cynorthwyo.
Pan rydych chi’n ffonio, darparwch y canlynol:
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Rhif myfyriwr
- Pynciau rydych chi’n eu hastudio
- Rheswm dros yr absenoldeb
- Dyddiad rydych chi’n disgwyl dychwelyd
- Rhif cyswllt
Gall rhieni neu warcheidwaid hefyd roi gwybod am absenoldebau drwy ddilyn yr un camau.
Rydyn ni’n deall yr heriau sy’n wynebu gofalwyr a gofalwyr ifanc ac rydyn ni wedi ymrwymo i wella eich profiad fel myfyriwr yn Cambria.
Rydyn ni wedi cyflawni’r Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Ewch i'r Hwb Myfyrwyr
Am y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau a chymorth i fyfyrwyr
Tymor yr Haf 2025
Dydd Llun 28 Ebrill
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 26 - dydd Gwener 30 Mai
Hanner Tymor
Dydd Gwener 20 Mehefin
Tymor yn Gorffen
Tymor yr Hydref 2025
Dydd Llun 1 Medi
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 27 Hydref - Dydd Gwener 31 Hydref - Hanner Tymor
Dydd Iau 18 Rhagfyr
Tymor yn Gorffen
Tymor y Gwanwyn 2026
Dydd Llun 5 Ionawr
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 16 - Dydd Gwener 20 Chwefror
Hanner Tymor
Dydd Mawrth 27 Mawrth
Tymor yn Gorffen
Tymor yr Haf 2026
Dydd Llun 13 Ebrill
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 25- dydd Gwener 29 Mai
Hanner Tymor
Dydd Gwener 19 Mehefin
Tymor yn Gorffen
Ychwanegwch Ddyddiadau'r Tymor at eich Calendr
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Angen gwybodaeth yn sydyn? Defnyddiwch y dolenni isod i archwilio adnoddau allweddol fel opsiynau cludiant, cymorth llesiant, a gwasanaethau myfyrwyr.
P’un ai eich bod chi’n cynllunio’ch taith neu’n chwilio am arweiniad, mae popeth sydd ei hangen arnoch chi ar gael ar flaenau eich bysedd.
Gwybodaeth Benodol am y Safle
Gall dechrau yn y coleg deimlo fel cam mawr, ond rydyn ni yma i helpu i wneud pethau’n haws. Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i wybodaeth benodol i’ch safle dewisol.
Mae pob tudalen yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi i ddod i adnabod eich safle – o fapiau a chyfleusterau yn ogystal â chyfle i ddarganfod eich tîm cymorth. Dyma’r ffordd berffaith o deimlo’n fwy hyderus cyn i chi hyd yn oed gamu drwy’r drws.
Cwestiynau Cyffredin
Mae rhoi gwybod i ni am eich anghenion unigol yn gynnar yn golygu y gallwn roi cymorth ar waith ar unwaith. Gallwch ddatgelu eich anghenion ar unrhyw gam o’ch taith ddysgu.
Yn y coleg bydd eich anghenion cymorth yn cael eu diwallu gan dîm o bobl o’r enw Tîm Cynhwysiant. Bydd eich anghenion cymorth personol yn cael eu nodi a gallwn roi cymorth i chi yn yr ystafell ddosbarth neu ei gyflwyno fel sesiwn ychwanegol y byddwch yn ei mynychu gyda Darlithydd neu Fentor Arbenigol.
Gallwch ddefnyddio’r feddalwedd hon i’ch cynorthwyo i ddarllen testun ysgrifenedig, neu i deipio wrth i chi siarad. Mae’n gysylltiedig â’ch cyfrif e-bost coleg a gellir ei gyrchu o bell o’ch cartref.
Mae deall eich anghenion yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, mae arweiniad Trefniadau Mynediad i Arholiadau yn cael eu pennu gan JCQ ac rydym yn alinio â’u rheoliadau. Nid yw Trefniadau Mynediad i Arholiadau yn hawl awtomatig waeth beth fo’r mynediad blaenorol.
Dim ond os ydych wedi rhoi caniatâd i ni neu wedi gofyn i ni wneud hynny y byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth. Er enghraifft, caniatâd ar gyfer trefniadau mynediad at arholiad. Fodd bynnag, gall fod yn syniad da gwneud sefydliadau eraill yn ymwybodol o’ch anghenion fel y gellir rhoi cymorth perthnasol ar waith.
Na, eich gwybodaeth chi yw hyn. Fodd bynnag, os byddwch yn ei chael hi’n anodd yn ddiweddarach, ac nad ydych wedi datgelu, efallai na fydd eich cyflogwr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Ydy. Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gwrs siaradwch â’r Darlithydd Arbenigol ADY ar gyfer eich maes a all esbonio’r broses i chi.
Mae’r Tîm Cynhwysiant yn darparu cymorth cymdeithasol yn ystod adegau anstrwythuredig yn ystod y dydd, fel amser cinio ac egwyl drwy glybiau fel NGAGE (niwroamrywiaeth) a SensAbility (nam ar y synhwyrau).
Os nad ydych wedi dechrau yn y coleg eto, cysylltwch â Chydlynydd Cymorth Dysgu a byddant yn trafod eich anghenion cymorth ac yn eich cyfeirio at y person gorau i’ch helpu.
Os ydych wedi dechrau ar eich cwrs, siaradwch â’ch anogwr cynnydd/tiwtor personol neu unrhyw staff addysgu ar eich cwrs. Gallant eich cyfeirio.
Mae Darlithwyr Arbenigol yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu annibyniaeth dysgu. Bydd Darlithydd Arbenigol yn cyflwyno eu hunain i’ch grŵp yn y cyfnod ymsefydlu ar gyfer pob cwrs. Fel arfer mae hyn yn ystod eich wythnos gyntaf yn y coleg. Fodd bynnag, os bydd angen i chi gysylltu â nhw cyn i chi gofrestru, bydd ein Cydlynwyr Cymorth Dysgu yn gallu eich cyfeirio at yr aelod o staff perthnasol.
Niwroamrywiaeth yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio a dathlu pwysigrwydd gwahaniaethau gwerthfawr yr ymennydd dynol.
Cymerwch gip ar y fideo YouTube hwn gan Gymdeithas Dysclecsia Prydain i gael rhagor o wybodaeth am beth yw niwroamrywiaeth.
Mae rheoliadau presennol yn nodi na ellir cwblhau sgrinio heb brawf llygaid diweddar (o fewn y 2 flynedd diwethaf). Mae hefyd yn diddymu anawsterau darllen ac ysgrifennu a achosir gan olwg gwael.
Nac ydy. Nid yw sgrinio yn ddiagnosis ffurfiol. Fodd bynnag, mae’n caniatáu i ni ddatblygu proffil o’ch cryfderau a rhai heriau y gallech eu hwynebu. Gall cwblhau sgrinio roi rhai strategaethau i ni a fyddai’n eich cefnogi yn y dosbarth, neu, i lywio asesiad pellach megis trefniadau mynediad at arholiadau, neu atgyfeirio ar gyfer asesiadau ffurfiol.
Na, eich gwybodaeth chi yw hon ac eich cyfrifoldeb chi yw ei rhannu. Bydd yn cael ei rhoi ar systemau’r coleg er mwyn i’ch darlithwyr a’ch aseswyr yn y gwaith gael mynediad i’r wybodaeth.
Rhowch wybod i’ch ysgol neu awdurdod lleol eich bod yn dymuno mynd i Goleg Cambria a gofynnwch iddynt anfon copi o’ch IDP/EHCP/LSP atom cyn gynted â phosibl. Pan fyddwn yn cael eich cynllun, yna gall y Tîm Cynhwysiant ddechrau cynllunio sut y gallwn eich cefnogi orau ar eich cwrs.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i wneud cais i’r coleg fel y gallwn eich cyfweld i wneud yn siŵr mai eich cwrs dymunol yw’r cwrs cywir a’r lefel gywir i chi. Unwaith y byddwch wedi cael cynnig lle, bydd aelod o’r Tîm Cynhwysiant yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion ac i lunio cynllun cymorth.
Mae gennym dîm ymroddedig o staff gofal sy’n gallu cynnig cymorth gyda gofal personol i’r rhai sydd ei angen. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich anghenion, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i lunio Cynllun Gofal Personol i sicrhau y caiff eich anghenion eu diwallu yn y coleg.
Gwefannau Allanol Defnyddiol
Isod, mae rhestr o rai gwefannau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a allai fod yn berthnasol i chi.
Cyfeiriwch unrhyw wybodaeth drwy’r post at:
Pennaeth Cynhwysiant
———————-
Coleg Cambria
Ffordd y Celstryn
Cei Connah
Glannau Dyfrdwy
Sir y Fflint
CH5 4BR







