Background Splash

Cyhoeddi - 14/07/2026

Wrexham Recruitment Event

Mae’r digwyddiad, Gyrfa Gymraeg @ Cambria, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 21 Gorffennaf o 4.30pm i 6pm a bydd yn cynnig cyfle hamddenol ac anffurfiol i gwrdd â staff, dysgu rhagor am swyddi gwag cyfredol ac archwilio sut y gall sgiliau Cymraeg gefnogi datblygiad gyrfa ar draws ystod o swyddi.

Gallai dechreuwyr newydd cymwys hefyd gael bonws croeso o £400 wrth i’r coleg barhau i dyfu ei weithlu dwyieithog ledled y gogledd ddwyrain.

Mae’r digwyddiad yn dilyn sesiwn debyg a gafodd ei chynnal ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam yn gynharach eleni, a ddenodd darpar ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys addysg, diwydiant a busnes.

Ar hyn o bryd mae’r coleg yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys swyddi addysgu ac asesu, cyfleoedd cymorth dysgu, swyddi gwag cymorth busnes a swyddi arbenigol mewn meysydd fel peirianneg, adeiladu, technolegau digidol, gofal iechyd a phrentisiaethau.

Bydd ymwelwyr yn gallu siarad yn anffurfiol â chydweithwyr sy’n siarad Cymraeg dros luniaeth, heb gynnal cyfweliadau ffurfiol. Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i roi lle croesawgar i bobl holi cwestiynau, meithrin cysylltiadau a dysgu rhagor am weithio yn un o sefydliadau addysg bellach blaenllaw Cymru.

Dywedodd Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg yng Ngholeg Cambria: “Mae datblygu gweithlu hyderus a dwyieithog yn ganolog i’n gweledigaeth ni.

“Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chysylltu â chymunedau sy’n siarad Cymraeg a dangos pa mor werthfawr ydy’r sgiliau iaith hynny mewn lleoliad proffesiynol. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi staff ym mhob cam o’u taith gyda’r Gymraeg a chreu rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.”

Ychwanegodd Jack Swift, Partner Busnes adnoddau dynol yng Ngholeg Cambria: “Roedd yr ymateb i’n digwyddiad yn Wrecsam yn wych a gwnaeth greu diddordeb gwirioneddol gan bobl sy’n awyddus i gymryd y cam nesa’ yn eu gyrfaoedd.

“Roedd yr adborth a gawsom ni yn hynod gadarnhaol, yn enwedig gan y rhai a oedd yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael sgyrsiau anffurfiol gyda staff a dysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael ar draws y coleg.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â’r un profiad i Lannau Dyfrdwy a chyfarfod â siaradwyr Cymraeg o ystod eang o gefndiroedd a diwydiannau.”

Mae’r coleg yn arbennig o awyddus i glywed gan weithwyr proffesiynol ym meysydd adeiladu, peirianneg, gofal iechyd, digidol a busnes, gan gynnwys y rhai sy’n awyddus i symud i addysg ac ennill cymwysterau addysgu tra yn y swydd.

Mae Coleg Cambria hefyd yn darparu cyfleoedd wedi’u teilwra i ddatblygu’r Gymraeg, hyfforddiant ar gyfer cyflwyno dwyieithog a chymhellion i staff sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Rydym yn annog y rhai sydd â diddordeb mewn mynd i gofrestru ymlaen llaw; mae croeso hefyd i alw heibio ar y diwrnod.

I gadw lle a darganfod rhagor, ewch i: cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiad-recriwtio-cymraeg/?lang=cy.

I weld ein swyddi gwag presennol, ewch i: www.colegcambria.ciphr-irecruit.com/Applicants/vacancy. Fel arall, anfonwch e-bost recruitment@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost