Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | MY10001 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | , Oddeutu 18 mis. |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio a dysgu ar yr un pryd. Mae’n addas ar gyfer unigolion sydd mewn swydd rheolwr canol sy’n gyfrifol am reoli timau neu weithrediadau dydd i ddydd a allai gynnwys datblygu cynlluniau gweithredol, rheoli perfformiad unigolion a thîmau, rheoli prosiectau, lleihau risgiau a datblygu perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid. Dylai dysgwyr gael cymorth eu cyflogwyr er mwyn cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus.
Unedau Gorfodol:
300 Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol
400 Egwyddorion Arwain a Rheoli
401 Datblygu a Gweithredu Cynllun Gweithredol
402 Datblygu Perthnasau Gwaith gyda Rhanddeiliaid
Unedau Dewisol:
404 Annog Dysgu a Datblygiad
405 Dechrau a Gweithredu Newid
413 Rheoli Prosiectau
414 Rheoli Risg Busnes
416 Arferion Recriwtio, Dewis ac Ymsefydlu
Dim ond sampl fach o'r unedau sydd ar gael ydy’r unedau dewisol sy’n cael eu dangos yma.

Gweithio mewn swydd briodol er mwyn gallu casglu tystiolaeth.
Cymorth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliadau i’r gweithle gan eich asesydd.
Cymorth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliadau i’r gweithle gan eich asesydd.
Bydd asesydd yn cael eu pennu i ddysgwyr. Bydd yr asesydd yn dod i’r gweithle unwaith y mis i arwain y dysgwr er mwyn llunio portffolio o dystiolaeth i ddangos eu gwybodaeth a’u cymhwysedd. Bydd tystiolaeth yn cael ei gasglu trwy Arsylwi’n Uniongyrchol ar y dysgwr, darparu dogfennaeth y mae’r dysgwr yn ei chwblhau neu sy’n ymwneud â nhw, tystiolaeth gan gydweithwyr a rhanddeiliaid i gadarnhau bod y dysgwr wedi cyflawni tasgau, trafodaethau rhwng y dysgwr a’r asesydd ar dasgau a gafodd eu cwblhau a datganiadau ysgrifenedig neu drafodaethau wedi’u recordio i gwmpasu’r wybodaeth ym mhob uned.
Gan fod y cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sydd mewn rheolaeth ganol bydd yn cadarnhau bod y dysgwr yn gymwys yn y swydd hon a gallai agor cyfleoedd i symud ymlaen i lefelau uwch o reolaeth.
£1,250.00 ar gyfer NVQ ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, os bydd yn cael ei wneud fel rhan o fframwaith prentisiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn yn amodol ar rai gofynion cymhwysedd.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025