Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10216
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, 18 mis

Adran
Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hyn ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes dysgu a datblygu. Bydd yr unedau a'r cymwysterau yn rhoi cyfle i bobl sy'n gwneud swyddi dysgu a datblygu yn eu sefydliad i ddatblygu a gwella eu hymarfer yn ogystal â chyflawni cymhwyster proffesiynol ar gyfer y swydd. Mae’r rhain ar gael i unrhyw un sy’n gweithio mewn dysgu achrededig; dysgu heb ei achredu (lle mae pobl yn hyfforddi ac asesu sgiliau ond ddim yn asesu am gymhwyster); yr NQF a’r QCF.

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n dymuno astudio’r cymhwyster hwn fod yn gweithio mewn lleoliad gwaith perthnasol a bod â’r cymhelliant i lwyddo yn yr hyn sydd i raddau helaeth yn gymhwyster sy’n cael ei arwain gan y dysgwr.

Ar gyfer yr unedau, mae angen tystiolaeth perfformiad o adfyfyrio ar eu harfer eu hunain.

Mae’n rhaid i’r dulliau gynnwys:

• Archwilio cynnyrch gwaith
• Cwestiynu
• Trafodaethau
• Defnyddio eraill (tystiolaeth tyst)
• Edrych ar ddatganiadau ymarferwyr

Yn y cymhwyster hwn mae’n rhaid rhoi’r cyfle i ddysgwyr arddangos eu gallu mewn amgylchedd go iawn, a hynny gyda dysgwyr go iawn er mwyn gallu cwrdd â’r holl ofynion.

Gan fod llawer o’r unedau sydd yn y Dystysgrif Lefel 3 yn y Diploma Lefel 4 hefyd, bydd y rhan fwyaf o ymarferwyr sy’n cyflawni’r Dystysgrif Lefel 3 wedi ennill credydau sylweddol ar gyfer y Diploma Lefel 4. Mae’r Lefel 3 yn darparu llwybrau i ddysgwyr ddeall a gweithio ym maes dysgu a datblygu. Mae’r Lefel 4 yn darparu llwybrau i ddysgwyr ddeall a gweithio mewn swyddi uwch a rheoli ym maes dysgu a datblygu.

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at: employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost