Diploma Lefel 3 mewn Cerbydau Modur

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00257
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Cerbydau Modur
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Gwasanaethu ac Atgyweirio Modurol Uwch: Gyrrwch Eich Gyrfa Yn Ei Flaen!

Ydych chi'n barod i fynd â'ch arbenigedd modurol i'r lefel nesaf? Mae'r cwrs hwn wedi'i lunio ar eich cyfer chi, gan eich helpu chi i ddatblygu sgiliau lefel uwch mewn gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau. Mae hefyd yn rhaglen ddelfrydol i'r rhai sy'n dilyn cyfleoedd Prentisiaeth Fodern.

Beth Fyddwch chi’n ei Feistroli

Byddwch chi’n ennill gwybodaeth gynhwysfawr a manwl a sgiliau ymarferol i ddod yn dechnegydd modurol cymwys.

Byddwch chi’n dysgu sut i:

● Adnabod namau mwy cymhleth mewn systemau cerbydau
● Atgyweirio unedau mawr o fewn cerbydau
● Meistroli gweithdrefnau prawf ac ailwampio ar gyfer:
o Systemau’r Injan
o Siasi
o Trawsyriant
o Systemau Trydanol:

Eich Dyfodol yn y maes Modurol

Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, bydd gennych chi’r sgiliau uwch a'r arbenigedd sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr yn y diwydiant modurol. Gall y cymhwyster hwn agor drysau i ddatblygiadau gyrfa cyffrous yn ogystal â chyfleoedd i arbenigo.


Ydych chi’n barod i symud eich gyrfa yn ei flaen?
Gwnewch gais rŵan a symudwch eich sgiliau i fyny gêr!

Rhaid cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddo gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.





Byddwch chi’n dangos eich datblygiad drwy weithgareddau ymarferol a fydd yn cael eu cyflawni mewn amgylchedd gwaith realistig.

Byddwn ni’n profi gwybodaeth drwy aseiniadau ysgrifenedig byr a chwestiynau amlddewis. Bydd asesiadau ymarferol yn cael eu cynnal yn ystod gweithgareddau yn y gweithdy.

Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiant Cerbydau Modur.

Gall y cymhwyster hwn agor drysau i ddatblygiadau gyrfa cyffrous, gan gynnwys:

● Symud ymlaen i Reoli Proffesiynol yn y Diwydiant Modur neu Lefel 4
● Prentisiaeth Uwch yn y Diwydiant Modur
● Gradd Sylfaen yn y brifysgol
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost