Diploma Lefel 2 BTEC Pearson mewn E-chwaraeon

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01650
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs amser llawn 1 flwyddyn.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, E-gwaraeon
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i blymio i fyd cyffrous E-Chwaraeon? Y cwrs hwn yw eich man cychwyn perffaith, wedi'i gynllunio i roi’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i ffynnu yn y diwydiant hwn sy'n ehangu'n gyflym.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r diwydiant E-Chwaraeon yn cynnig amrywiaeth enfawr o lwybrau gyrfa, a bydd y cwrs hwn yn eich helpu i archwilio llawer ohonynt. Er bod gemau yn rhan ohono, byddwch chi'n cael dealltwriaeth llawer ehangach o fusnes, digwyddiadau ac agweddau strategol E-Chwaraeon.

Byddwch chi’n cwblhau nifer o fodiwlau diddorol, gan gynnwys:
- Gemau E-Chwaraeon, Timau a Thwrnameintiau
- Sefydlu Sefydliad E-Chwaraeon
- Ffrydio ar gyfer E-Chwaraeon
- Cynllunio Digwyddiad E-Chwaraeon
- Dechrau Menter mewn E-Chwaraeon
- Iechyd a Llesiant mewn E-Chwaraeon

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf) a Mathemateg. NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Cwrs blwyddyn yw hwn lle byddwch chi’n creu tystiolaeth ar gyfer eich aseiniadau mewn amrywiaeth o ffyrdd cyffrous. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau trwy waith ysgrifenedig, cyflwyniadau, animeiddio, recordiadau fideo, a hyd yn oed perfformiad personol.
Ar ôl cwblhau’r diploma hwn yn llwyddiannus, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer eich cam nesaf, boed hynny’n astudiaeth bellach, cyflogaeth, neu brentisiaeth. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn E-Chwaraeon neu feysydd cysylltiedig.

Dychmygwch eich hun mewn rolau fel:
– Rheoli Digwyddiadau
– Cyfryngau a Marchnata
– Chwaraewr Tîm neu Hyfforddwr
– Sylwebydd neu Ddadansoddwr Gemau
– Gweithiwr Ffrydio Proffesiynol



Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost