Diploma L3 Cyfrifeg (Rhan Amser yn ystod y dydd)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01410
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Medi – Gorffennaf
Iâl, Wrecsam: Dydd Mawrth, 1pm – 7.30pm
Ysgol Fusnes Llaneurgain: Dydd Mercher, 1pm – 7.30pm

Wyneb yn wyneb, rhaid dod i mewn i’r coleg.

Mae’n rhaid talu cost ychwanegol am Diwtorialau a Llyfrau Gwaith .
Adran
Cyfrifeg, Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
13 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw adeiladu ar y sgiliau sy’n cael eu datblygu yn ystod y cwrs lefel rhagarweiniol. Byddwch chi’n meistroli prosesau ariannol mwy cymhleth gan gynnwys cyfrifon terfynol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau, adroddiadau ac enillion, a moeseg broffesiynol.
Fel cymhwyster annibynnol, neu fel cam cyntaf tuag at y lefelau canolradd ac uwch, bydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i astudio rhagor ym maes cyfrifeg a chyllid.

Bydd y lefel ganolradd yn addas i chi:
*Os ydych chi wedi cwblhau cwrs cyfrifeg lefel rhagarweiniol, ac yn dymuno ychwanegu at eich sgiliau
*Os ydych chi’n gweithio ym maes cyllid yn barod, ac yn dymuno cael cydnabyddiaeth ffurfiol o’ch sgiliau
*Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig

YMWYBYDDIAETH FUSNES
*Deall mathau o fusnes, strwythurau a llywodraethu, a'r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo
*Deall effaith yr amgylchedd allanol a mewnol ar y busnes, eu perfformiad a’u penderfyniadau
*Deall sut mae busnesau a chyfrifwyr yn cydymffurfio ag egwyddorion moeseg broffesiynol
*Deall effaith technolegau newydd ym maes cyfrifeg a'r risgiau sy'n gysylltiedig â diogelwch data​
*Cyfathrebu gwybodaeth i randdeiliaid

CYFRIFO ARIANNOL: PARATOI DATGANIADAU ARIANNOL
*Deall yr egwyddorion cyfrifeg sy'n sail i baratoi cyfrifon terfynol
*Deall egwyddorion cadw cyfrifon cofnod dwbl uwch
*Gweithredu gweithdrefnau ar gyfer caffael a chael gwared ar asedau anghyfredol
*Paratoi a chofnodi cyfrifiadau dibrisiant
*Cofnodi addasiadau diwedd cyfnod
*Cynhyrchu ac ymestyn y fantolen brawf
*Cynhyrchu datganiadau ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau​
*Dehongli datganiadau ariannol gan ddefnyddio cymarebau proffidioldeb​
*Paratoi cofnodion cyfrifeg o wybodaeth anghyflawn

TECHNEGAU CYFRIFON RHEOLI
*Deall pwrpas a defnydd cyfrifyddu rheoli o fewn sefydliadau cyfrifon rheoli
*Defnyddio’r technegau sydd eu hangen ar gyfer delio â chostau
*Priodoli costau yn unol â gofynion y sefydliad
*Ymchwilio i wyriadau oddi wrth y cyllidebau
*Defnyddio technegau taenlen i ddarparu gwybodaeth cyfrifon rheoli
*Defnyddio technegau cyfrifon rheoli i gynorthwyo gwneud penderfyniadau tymor byr
*Deall egwyddorion rheoli arian parod

PROSESAU TRETH AR GYFER BUSNESAU
*Deall gofynion deddfwriaeth yn ymwneud â TAW​
*Cyfrifo TAW
*Adolygu a dilysu ffurflenni TAW
*Deall egwyddorion cyflogres
*Rhoi gwybod am wybodaeth o fewn y sefydliad
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag asesiad dechreuol i gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs hwn.
Cafodd asesiadau AAT eu llunio i asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau rydych chi wedi eu meithrin. Asesiadau AAT:
*Maent yn asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron
*Maen nhw’n cael eu marcio bron yn awtomatig, felly cewch chi weld y canlyniadau dros dro yn syth. Mae hyn yn eich galluogi i ddeall sut rydych chi’n dod ymlaen.

Mathau o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron
Mae dau fath o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron:

*Profion cyfrifiadurol (CBT) wedi’u marcio’n gyfan gwbl gan feddalwedd cyfrifiadurol AAT. Bydd canlyniadau dros dro Lefel 3 ar gael ar ddiwrnod yr asesiad.
*Prosiectau ar sail cyfrifiadur sydd wedi’i farcio’n rhannol gan gyfrifiadur ac yn rhannol gan bobl sef Arholwyr AAT. Mae canlyniadau’r arholiadau hyn yn cymryd 6 wythnos i gyrraedd.
Swyddi posibl ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn

*Cymhorthydd Cyfrifon
*Goruchwylydd Adran Cyfrifon Taladwy a Threuliau
*Clerc Cyfrifon Taladwy
*Cyfrifydd Cynorthwyol
*Archwiliwr dan hyfforddiant
*Ceidwad Cyfrifon
*Dadansoddydd Adfer Corfforaethol
*Rheolydd Credyd
*Cymhorthydd Cyllid
*Gweithredwr Methdaliadau
*Gweinyddydd Cyflogres
*Goruchwylydd Cyflogres
*Ceidwad Cyfrifon a Gweithiwr Cyflogres mewn Cwmni Cyfrifeg
*Cyfrifydd Treth
*Cymhorthydd Treth
£1965.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost