Lefel 2 NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch ac Ewinedd (Dysgu ar Garlam)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00129
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2027
Dyddiad gorffen
17 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Datgloi eich potensial gyda'n Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch! Mae’r cwrs llawn amser, blwyddyn o hyd a chyffrous hwn yn cynnig eich cam cyntaf at yrfa werthfawr yn y diwydiant harddwch bywiog.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Byddwch chi'n ennill sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol mewn meysydd allweddol fel anatomeg a ffisioleg, iechyd a diogelwch, a thechnegau ymgynghori â chleientiaid. Cael profiad ymarferol o weithio gyda brandiau proffesiynol fel Dermalogica a brandiau ewinedd blaenllaw. Byddwch yn meistroli ystod o wasanaethau yn cynnwys:

- Triniaethau i’r dwylo a’r traed
- Cwyro
- Triniaethau i’r amrannau a’r aeliau
- Triniaethau i’r wyneb
- Coluro.

Byddwch chi'n cyflawni'r gwasanaethau therapi harddwch hyn ar gleientiaid masnachol sy'n talu am y gwasanaethau gan roi profiad amhrisiadwy i chi yn y byd go iawn. Y tu hwnt i'r sgiliau technegol byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid gwerthfawr iawn, ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a galluoedd datrys problemau.

Yn ogystal â'r cymhwyster Lefel 2 mewn Harddwch ac Ewinedd, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol o'r cwrs:

- Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
- Datblygu sgiliau Cymraeg
- Datblygu llythrennedd a rhifedd

Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau i chi yn eich sesiwn ymsefydlu.

Sefwch allan o'r dorf! Bydd cyfleoedd hefyd i gystadlu'n lleol ac yn genedlaethol mewn cystadlaethau harddwch mawreddog.

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl), A Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 4 TGAU gradd 3 neu uwch, gan gynnwys:Iaith Saesneg A Mathemateg.

NEU Gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus, yn ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd y gwaith cwrs trwy asesiadau parhaus.
– Asesiadau ymarferol
– Arholiadau
– Portffolio o dystiolaeth.

Mae cyfleoedd cyffrous o’ch blaen yn dilyn eich cymhwyster lefel 2. Gyda’r sgiliau rhagorol a ddysgwyd gennych, gallwch fynd yn syth i’r diwydiant gan weithio mewn salon stryd fawr brysur, sba moethus neu gonsesiynau manwerthu harddwch.

Eisiau mynd ymhellach? Bydd gennych ddigon o gyfleoedd i ddatblygu, gan gynnwys:

– Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch
– Diploma Lefel 2 mewn Celfyddyd Gwallt a Cholur
– Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig, Effeithiau Arbennig a Gwallt a’r Cyfryngau.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds