Diploma Lefel 2 mewn Celfyddyd Gwallt a Cholur

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01271
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.

Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2027
Dyddiad gorffen
17 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau ymarferol a damcaniaethol ar gyfer gyrfa werth chweil mewn colur. Byddwch yn adeiladu portffolio cadarn o'ch gwaith sy'n hanfodol ar gyfer arddangos eich doniau ac yn datblygu sgiliau rhyngbersonol hanfodol ar gyfer cyfathrebu effeithiol â chleientiaid.

Mae rhai o'r unedau cyffrous y gallwch chi eu hastudio yn cynnwys:

- Colur ffotograffig
- Peintio’r wyneb a’r corff
- Triniaethau i’r amrannau a’r aeliau
- Trin a steilio gwallt.

Hefyd mae eich rhaglen yn cynnwys elfennau gorfodol i wella eich datblygiad cyffredinol:

- Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
- Datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd
- Datblygu sgiliau Cymraeg
- Bydd gan ddysgwyr y cyfle i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith fel rhan o'u rhaglen.

Nodwch efallai y bydd eich amserlen yn cynnwys rhai sesiynau gyda'r nos gyda dyddiadau'n cael eu cyflwyno yn ystod eich sesiwn ymsefydlu.

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl), A Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 4 TGAU gradd 3 neu uwch, gan gynnwys:Iaith Saesneg A Mathemateg

NEU Gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus, yn ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Mae gwaith cwrs yn cael ei wneud trwy asesu parhaus trwy arsylwi ymarferol, aseiniadau ac arholiadau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn byddwch wedi’ch paratoi ar gyfer amrywiol lwybrau gyrfa gyffrous o fewn y sector colur creadigol.

Mae’n bosib i chi symud ymlaen at:
– Diploma Lefel 3 mewn Effeithiau Arbennig Theatrig a Cholur Cyfryngau
– Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu Dorri Gwallt Dynion (os ydych chi am arbenigo)
– Lefel 2 mewn Therapi Harddwch ac Ewinedd (os ydych chi eisiau arbenigo).

Mae cyflogaeth yn y sector hwn yn hynod amrywiol gyda chyfleoedd mewn ffilm, ffasiwn, teledu, neu theatr. Er bod llawer o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant hwn yn hunangyflogedig byddwch yn ennill y sgiliau i adeiladu eich portffolio ac i gynnig am gontractau ar sesiynau tynnu lluniau a gyda dylunwyr ffasiwn.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds