Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01344
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.



Adran
Teithio a’r Economi Ymwelwyr
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2027
Dyddiad gorffen
17 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod am yrfa newydd ddeinamig? Mae'r cwrs blwyddyn, llawn amser hwn yn gyfle perffaith i chi gael blas o fyd cyffrous Teithio a Thwristiaeth! Byddwn yn rhoi cyflwyniad gwych a chynhwysfawr i chi o'r diwydiant a’ch paratoi ar gyfer llwyddiant yn un o'r nifer o feysydd gwaith cysylltiedig.

Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth ymarferol go iawn i chi ac i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y diwydiant. Wrth i chi symud ymlaen trwy eich unedau byddwch yn datblygu sgiliau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, marchnata, busnes a chyflogaeth.

Gallwch fod yn astudio unedau cyffrous fel:
* Twristiaeth yn y DU
* Meysydd Awyr a Chwmnïau Awyrennau
* Deall Twristiaeth Arbenigol
* Cyflwyniad i Deithiau Tywys
* Profiad gwaith mewn Teithio a Thwristiaeth
* Cyrchfannau Teithio
* Gwyliau Pecyn
* Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth

Sylwch: (mae rhai unedau yn debygol o newid).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl), A Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 4 TGAU gradd 3 neu uwch, gan gynnwys:Iaith Saesneg A Mathemateg

NEU Gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus, yn ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Rydyn ni’n credu yn y broses o wneud wrth ddysgu! Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd diddorol ac ymarferol drwy gydol y cwrs. Dychmygwch eich hun yn cynllunio digwyddiadau a rhoi cyflwyniadau, yn cymryd rhan mewn chwarae rôl a phrosiectau hyrwyddo – mae pob tasg yn eich helpu i feithrin sgiliau go iawn yn y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys elfen o brofiad gwaith gorfodol sy’n rhoi cyfle cyffrous i chi ennill profiad ymarferol hanfodol gyda sefydliadau allanol. Mae’n hanfodol ar gyfer datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth.

Yn ogystal â’r brif ddiploma bydd eich rhaglen ddysgu yn cynnwys:

* Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
* Datblygu sgiliau Cymraeg
* Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.

Gall cwblhau’r diploma hwn yn llwyddiannus, ynghyd â phresenoldeb, prydlondeb ac ymddygiad da, ennill lle i chi ar y Diploma Rhagarweiniol Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth.

Ar ôl cyflawni eich cymhwyster Lefel 3 bydd llond gwlad o ddewisiadau prifysgol a chyflogaeth ar gael i chi. Mae’r cwrs hwn yn gam ymlaen at rolau uchelgeisiol fel:

* Criw Caban / Cynorthwyydd Hedfan
* Staff Maes Awyr / Asiant Cofrestru
* Asiant Twristiaeth
* Arweinydd Teithiau
* Ymgynghorydd Mordeithiau
* Blogiwr Teithiau
* Cydlynydd Adloniant / Gweithgareddau (Cyrchfannau gwestai neu longau mordeithio)
* Swyddog Twristiaeth (cyngor lleol neu fwrdd twristiaeth).
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.



Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds