Llwyddo'n Chweched Glannau Dyfrdwy: Dathlu Degawd o Lwyddiant

#Degawdo6edGD

Rydyn ni’n dathlu degawd o Chweched Glannau Dyfrdwy
Mae hi’n anodd coelio bod degawd wedi bod ers i Chweched Glannau Dyfrdwy agor ei ddrysau am y tro cyntaf.
P’un a oeddech chi’n rhan o’n carfan gyntaf un neu wedi cwblhau eich Safon Uwch gyda ni yn fwy diweddar, rydych chi wedi chwarae rhan bwysig yn stori Chweched Glannau Dyfrdwy. Rŵan mae hi’n amser dod yn ôl a dathlu popeth rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.
Ailgysylltwch â chyn-ddarlithwyr, daliwch i fyny â hen gyd-fyfyrwyr, a gweld sut mae Chweched Glannau Dyfrdwy wedi esblygu dros y deng mlynedd diwethaf wrth gwrdd â rhai o’n myfyrwyr presennol.

Manylion y Digwyddiad
Dyddiad 📅 
Dydd Llun 21 Medi 2026

Amser 🕛 
12:15pm – 2:15pm – Digwyddiad ymlaciol, galw heibio – galwch draw pryd bynnag

Lleoliad📍
Canolfan Chweched Glannau Dyfrdwy – Coleg Cambria

Bwyd a Lluniaeth🍽️
Mwynhewch ginio bwffe a lluniaeth am ddim yn ystod y digwyddiad.

Pam Dod?
🎉 Dathlu degawd o Chweched Glannau Dyfrdwy
🤝 Ailgysylltu â ffrindiau a chyn-ddarlithwyr
🎓 Cwrdd â myfyrwyr presennol a gweld sut mae Chweched Glannau Dyfrdwy wedi tyfu
💬 Rhwydweithio gyda chyd gyn-fyfyrwyr
📸 Ail-fyw atgofion a dathlu etifeddiaeth Chweched Glannau Dyfrdwy
P’un a ydych chi newydd adael neu a ydy blynyddoedd wedi mynd heibio ers i chi raddio, byddem ni wrth ein bodd yn eich croesawu chi’n ôl.

Taith
Ewch ar daith rhithwir o amgylch Chweched Glannau Dyfrdwy gyda’n taith 360°.

Straeon Cyn-Fyfyrwyr

Dewch i glywed gan ein cyn-fyfyrwyr