Beth am barhau gyda'ch Astudiaethau gyda Chanolfan Brifysgol Cambria

Croeso i Ysgol Fusnes Cambria, ein man dysgu modern gwerth £3.5 miliwn wedi’i adeiladu’n bwrpasol, a’i leoli yn amgylchedd syfrdanol Llaneurgain, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r ysgol fusnes ar ddau lawr yn llawn o’r cyfleusterau rhyngweithiol diweddaraf. Mae’n gartref i rai o’n cyrsiau datblygiad proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddiant cyflogwyr.

Mae adeilad yr ysgol fusnes yn cynnwys atriwm trawiadol gyda soffas cyfforddus, a chymdeithasu ar ein meinciau ac o amgylch y byrddau coffi. Gyda’i olau naturiol helaeth, cyfleusterau digidol a mannau rhyngweithiol, dewch i weld sut beth ydy dyfodol dysgu.

Darganfyddwch Ein Cyrsiau

Pam astudio gyda Chanolfan Brifysgol Cambria?

Isod mae rhai o’r rhesymau y dylech chi astudio gyda Chanolfan Brifysgol Cambria:

Canolbwyntio ar eich dyfodol – Mae ein holl raglenni wedi’u cynllunio gan ystyried eich cyflogaeth yn y dyfodol gyda darlithwyr yn rhannu eu gwybodaeth arbenigol am y diwydiant trwy eu dysgeidiaeth

Cyfleustra – Trwy astudio’n lleol gallech chi arbed swm sylweddol o arian, heb unrhyw ffioedd llety. Mae bwrsariaeth a chymorth i fyfyrwyr ar gael hefyd

Cefnogaeth – Mae ein timau cynhwysiant yn gweithio’n galed i roi cyngor ac arweiniad unigol i chi wedi’u teilwra i’ch anghenion penodol a’ch nodau gyrfa eich hun.

Mae uchafbwyntiau’r Datganiad Sicrhau Ansawdd diweddaraf a gafodd ei gyhoeddi i’w gweld yma.

QAA Logo
QAA Membership

Ein cyfleusterau