Mae dechrau coleg yn gam cyffrous at fwy o annibyniaeth. Er bod yna rhai pethau’n debyg i’r ysgol mae yna ambell wahaniaeth pwysig hefyd y dylai gwarcheidwaid a rhieni fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sy’n cael ei gyfathrebu gan y coleg yn cael ei anfon yn uniongyrchol at y dysgwyr yn hytrach na’r rhieni neu warcheidwaid. Mae hyn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu annibyniaeth a chyfrifoldeb.

Mae’r coleg yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i bobl ifanc dros eu dysgu a’u bywyd bob dydd yn y coleg.

Mae hynny’n cynnwys:

  • Rheoli eu hamserlen
  • Cwrdd â’r dyddiadau cau
  • Dod i wersi
  • Derbyn cymorth pan fydd ei angen arnynt

Mae rhieni yn parhau i fod yn rhan bwysig o hyn ond rydyn ni’n ceisio annog dysgwyr i gymryd perchnogaeth o’u bywyd yn y coleg.

Yn wahanol i’r ysgol mae amserlenni yn gallu newid o un diwrnod i’r llall yn dibynnu ar gwrs y dysgwr. 

O bosib bydd dysgwyr yn profi cymysgedd o’r canlynol:

  • Gwersi yn yr ystafell ddosbarth
  • Sesiynau ymarferol
  • Astudio’n annibynnol
  • Lleoliadau gwaith neu brofiadau yn y diwydiant

Er bod coleg yn hyrwyddo annibyniaeth nid oes disgwyl i ddysgwyr ddelio â heriau ar ben eu hunain. 

Mae’r cymorth canlynol ar gael:

Os ydych yn sylwi bod eich person ifanc yn gweld pethau’n anodd yna ceisiwch eu hannog nhw i siarad gydag aelod staff cyn gynted â phosib.

Mae Anogwyr Cynnydd yn gallu helpu dysgwyr gyda’u datblygiad personol, cynllunio cynnydd a bywyd coleg yn gyffredinol.

Mae rhieni yn sylwi fod Anogwyr Cynnydd yn cyflawni rôl debyg i diwtor dosbarth mewn ysgol ond yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer eu nodau yn y dyfodol ar yr un pryd. 

Mae mwy i goleg na chymwysterau’n unig. 

Gall dysgwyr gymryd rhan mewn clybiau, gweithgareddau, cyfleoedd cyfoethogi, gwirfoddoli, cystadlaethau a digwyddiadau i’w helpu nhw i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a gwneud ffrindiau newydd. 

Mae’n bosib iddyn nhw gofrestru eu diddordeb mewn Gweithgareddau Cambria yma.

Mae llawer o bobl ifanc yn poeni am wneud ffrindiau cyn iddyn nhw ddechrau yn y coleg.

Dyma un o’r prif bryderon ac mae’n gwbl normal. 

Mae digwyddiadau fel Ffair y Glas, gweithgareddau cyfoethogi a gweithgareddau sy’n ymwneud â’r cwrs yn helpu dysgwyr i gyfarfod pobl newydd ac i gymryd rhan ym mywyd y coleg.

Fel gyda’r ysgol mae presenoldeb da yn allwedd i lwyddiant yn y coleg. Mae presenoldeb rheolaidd yn helpu dysgwyr i gadw ar y trywydd iawn gyda’u hastudiaethau ac yn gwneud y mwyaf o’u profiad yn y coleg. 

Os bydd eich person ifanc yn absennol mae disgwyl iddyn nhw ddilyn y weithdrefn adrodd ar absenoldeb y coleg a rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib ar yr ap. Cliciwch yma i weld sut i wneud hynny.

Mae bron yn amser dweud ie i'ch lle!

Days
Hours
Minutes
Seconds