Home > Myfyrwyr Newydd 26/27 > Cwestiynau Cyffredin > Cwestiynau Cyffredin Rhieni
Cymerwch gip ar y Cwestiynau Cyffredin isod
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni:
Os byddwch chi/nhw’n dod i’w safle dewisol ar ein Diwrnodau Agored ar 20 neu 21 Awst gyda chopi o’u graddau, bydd ein staff wrth law ac ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad a gallant drafod eu hopsiynau.
Mae’r un mor bwysig eu bod yn dweud wrthym eu bod wedi penderfynu peidio â derbyn eu cynnig am le yma yn Cambria. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallent roi gwybod i ni. Bydd manylion am sut i wneud hyn hefyd yn yr e-bost y byddwn wedi’i anfon allan atynt.
Os ydyn nhw’n dymuno newid eu cwrs rhaid anfon e-bost at derbyniadau@cambria.ac.uk cyn iddyn nhw ddweud ie i’w lle neu ymweld ag un o’n safleoedd ar 20 neu 21 Awst a siarad gydag aelod staff a fydd yn cynnig cyngor ac arweiniad ar eu dewisiadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch ynghylch Cadarnhau Eich Lle, cysylltwch â’r Tîm Cofrestru drwy e-bost neu dros y ffôn:
Os ydy eich person ifanc eisiau newid cyrsiau cyn mis Medi, cysylltwch â Derbyniadau ar derbyniadau@cambria.ac.uk neu 0300 30 30 007, neu os ydy hi’n fis Medi, dilynwch y broses Newidiwch Peidiwch Gadael.

Fe ddylen nhw anfon e-bost at derbyniadau@cambria.ac.uk gyda’r newid manylion ynghyd â’u henw llawn a’u dyddiad geni.
Bydd eich person ifanc yn derbyn ei ddyddiad dechrau ar ôl dweud ie i’w lle ddiwedd mis Awst. Cysylltwch â croeso@cambria.ac.uk os na allen nhw ddod o hyd i’w neges e-bost.
Dylen nhw wisgo rhywbeth cyfforddus ac ymarferol.
Bydd eich person ifanc yn derbyn ei amserlen yn ystod y Cyfnod Ymsefydlu yn ystod wythnos gyntaf mis Medi.
Bydd amserlenni ar gael ar ap Cambria ar ôl y Cyfnod Ymsefydlu. Ni allwn gadarnhau amserlenni cyn hynny, oherwydd nifer y dysgwyr a nifer y grwpiau sy’n dal i gael eu cwblhau.
Bydd eich person ifanc yn derbyn cerdyn adnabod coleg a laniard ar ddiwrnod cyntaf y Cyfnod Ymsefydlu.
Mae rhestrau cit/offer ar ein gwefan. Chwiliwch am eu cwrs a bydd dolen o’r enw “Rhestr Cit”.
Cliciwch yma i weld dyddiadau tymor y coleg.
I gurchu cludiant coleg, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am gludiant. Mae hyn yn caniatáu i ni asesu eich gofynion teithio a dyrannu cludiant lle bo hynny ar gael.
Gallwch chi wneud cais am gludiant drwy glicio yma.
Newydd eleni: Sganio Cerdyn Adnabod i Fynd ar y Bws!
Er mwyn gwneud mynd ar y bws yn gyflymach ac yn fwy diogel, bydd ein gyrwyr yn defnyddio system sganio newydd eleni. Dyma sut mae’n gweithio:
Ar eich diwrnod cyntaf yn y coleg, mae eich trefniadau teithio yn dibynnu ar ba fath o fws rydych chi’n ei ddefnyddio:
Bysiau Cytundebol y Coleg: Nid oes angen eich cerdyn adnabod na thocyn bws arnoch chi i fynd ar eich diwrnod cyntaf. Mae cyfnod gras byr lle gallwch chi deithio heb docyn, gan roi amser i chi gasglu eich cerdyn adnabod a chael y taliad wedi’i actifadu.
Bysiau Arriva: Os ydych chi’n teithio ar lwybr bws Arriva, bydd angen i chi dalu am eich tocyn ar eich diwrnod cyntaf. Ar ôl i chi gyrraedd safle eich coleg, gallwch chi gasglu eich tocyn bws Arriva â chymhorthdal o’r Gwasanaethau Myfyrwyr. Fel arall, gallwch chi fynd i weld y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar eich safle astudio cyn eich dyddiad dechrau i gasglu eich tocyn ymlaen llaw.

Dyma’r gost fesul tymor:
£90 y tymor i fyfyrwyr 16-18 oed
£160 y tymor i fyfyrwyr 19 oed a throsodd
Bydd opsiwn hefyd i dalu am y flwyddyn gyfan:
£270 i fyfyrwyr 16-18 oed
£480 i fyfyrwyr 19+ oed
Cyfraniad tuag at eich tocyn bws yw hwn, gyda Choleg Cambria yn talu’r gost sy’n weddill.
Anfonwch e-bost at cludiant@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.
Os ydych chi’n methu’r bws: Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod chi yn eich arhosfan ddynodedig mewn pryd. Os byddwch yn colli’r bws, bydd angen i chi wneud trefniadau eraill i gyrraedd y coleg.
Os nad yw’r bws yn cyrraedd: Cysylltwch â Llinell Gludiant y Coleg ar 01978 515454 neu ewch i’r Gwasanaethau Myfyrwyr.
Oes, efallai y bydd cymorth ariannol ar gael. Os ydych chi’n pryderu ynghylch fforddio’r ffi cludiant â chymhorthdal, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gall ein tîm drafod opsiynau fel y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF), Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) (ar gyfer pobl 16-18 oed), neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach (WGLG-FE) (ar gyfer dysgwyr 19+).
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais yma – https://cambria.ac.uk/eich-cefnogi-chi/cymorth-myfyrwyr/cymorth-i-fyfyrwyr/?lang=cy
Gwnewch gais cyn gynted â phosibl.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn anghofio fy ngherdyn adnabod?
Peidiwch â phoeni, byddwch yn gallu cyrchu fersiwn ddigidol o’ch cerdyn adnabod drwy Ap Cambria. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r Ap.
Os byddwch chi’n colli’ch cerdyn adnabod coleg (sydd hefyd yn gweithredu fel eich tocyn bws), rhowch wybod amdano i’r Gwasanaethau Myfyrwyr cyn gynted â phosibl. Darperir cardiau adnabod newydd am ddim am hyd at bum ailargraffiad. Os oes gennych chi docyn bws Arriva ac mae’n cael ei golli, bydd ffi newydd o £15.00 yn berthnasol. Bydd y Gwasanaethau Myfyrwyr yn eich cynghori ar y broses o gael un newydd.
A fydd unrhyw ddigwyddiadau i rieni neu ofalwyr cyn i fy mhlentyn ddechrau yn y coleg?
Bydd. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau Holi ac Ateb yn fyw ar-lein i rieni a gofalwyr cyn dechrau’r tymor, gan roi rhagor o wybodaeth i chi am fywyd coleg, y cymorth sydd ar gael i ddysgwyr, beth i’w ddisgwyl yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau.
Bydd digwyddiadau rhieni a gofalwyr eleni yn digwydd am 6pm ar nos Iau 27 Awst a 6pm ar nos Iau 3 Medi.
Rydyn ni hefyd yn cynnig digwyddiadau Holi ac Ateb ar-lein ar wahân i ddysgwyr fel eu bod nhw’n gallu dysgu mwy am ddechrau yn y coleg, cwrdd ag aelodau’r tîm, a gofyn eu cwestiynau eu hunain. Bydd digwyddiadau dysgwyr yn digwydd am 6pm ar nos Fercher 26 Awst a 6pm ar nos Fercher 2 Medi.
Archebwch eich lle yma – https://cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/sesiwn-holi-ac-ateb-i-fyfyrwyr-newydd/?lang=cy
Bydd. Mae Nosweithiau Cynnydd yn gyfle gwych i ddysgwyr a’u rhiant(rhieni)/gwarcheidwaid(wyr) drafod cynnydd academaidd, presenoldeb a datblygiad cyffredinol gyda staff addysgu.
Cynhelir pob Noson Gynnydd ar-lein gan ddefnyddio ein system SchoolCloud, sy’n eich galluogi i fynychu apwyntiadau o gysur eich cartref. Anfonir gwybodaeth am sut i gael mynediad at SchoolCloud a threfnu apwyntiadau ymlaen llaw cyn pob Noson Gynnydd.
Dysgwyr Safon Uwch
Mae yna lawer o ffyrdd i ddysgwyr gymryd rhan y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Gallant gymryd rhan mewn chwaraeon Cambria Heini yn ystod amser cinio, Gwobr Dug Caeredin, a sesiynau llesiant, Llais Myfyrwyr, clybiau a chymdeithasau, gweithgareddau Menter a chystadlaethau WorldSkills. Mae yna hefyd leoedd yn ein Undeb Myfyrwyr yn ein safleoedd yn Iâl a Glannau Dyfrdwy lle gall dysgwyr gwrdd â ffrindiau, ymlacio a chymryd rhan ym mywyd coleg.
Mae ein clybiau a’n cymdeithasau yn cynnwys ystod eang o ddiddordebau, o ysgrifennu creadigol, trafod a chelf i anime a manga, Dungeons & Dragons, cynaliadwyedd, TG, gemau, grwpiau LHDTC+ a rhagor, gyda gweithgareddau newydd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn.
Gall eich person ifanc hyd yn oed gofrestru ei ddiddordeb cyn dechrau yn y coleg i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn syth ar ôl ymuno. Gallant edrych ar beth sydd ar gael a llenwi’r ffurflen gofrestru yma: https://www.cambria.ac.uk/college-life/student-clubs/?tc=ryi
Bydd Ffair y Glas yn digwydd ar bob safle yn ystod pythefnos cyntaf y tymor. Bydd eich person ifanc yn gallu cwrdd â thimau cymorth a bydd rhoddion am ddim a stondinwyr gwadd.
Anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.
Os ydy eich person ifanc yn astudio yn ein safle yng Nglannau Dyfrdwy, dylen nhw anfon e-bost at toybox@cambria.ac.uk neu ffonio 01978 267159. Ar gyfer pob safle arall cysylltwch â gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.