O beirianwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol i fyfyrwyr creadigol a phrentisiaid arobryn sydd eisoes yn gwneud eu marc yn y diwydiant, cafodd rhai o’n dysgwyr mwyaf rhagorol eu hanrhydeddu yn ein Gwobrau Myfyrwyr blynyddol

Cynhaliwyd y dathliadau dros ddau ddiwrnod ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam, ac roedden nhw’n cydnabod cyflawniad ar draws rhaglenni Addysg Bellach, Addysg Uwch, Prentisiaethau, Dysgu yn y Gwaith a Dysgu i Oedolion, gan daflu goleuni ar unigolion sydd wedi goresgyn anawsterau, wedi rhagori ar ddisgwyliadau ac wedi manteisio i’r eithaf ar bob cyfle. […]
Cefnogi’r Genhedlaeth Nesaf o Weithwyr Proffesiynol Addysg gyda’n Gradd Newydd mewn Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod

Bydd y rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod, sy’n dechrau fis Medi yma ar safle Llaneurgain y coleg, yn arfogi myfyrwyr gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ymarferol sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc o blentyndod cynnar hyd at lencyndod. Wedi’i achredu gan Brifysgol Wrecsam, mae’r cymhwyster tair blynedd yn adlewyrchu’r galw cynyddol am ymarferwyr […]
Cafodd un o’n darlithwyr groeso cynnes gan fyfyrwyr a staff ar ôl helpu i wneud hanes teledu fel rhan o’r côr cyntaf erioed i ennill Britain’s Got Talent

Mae Aled Morris, ffermwr o Langollen a darlithydd Peirianneg Amaethyddol ar safle Llysfasi y coleg, wedi dychwelyd i’r gwaith i gymeradwyaeth ar ôl rownd terfynol Britain’s Got Talent, lle daeth côr ffermwyr Hawkstone yn fuddugol yn erbyn sioe golau drôn Celestial. Swynodd y côr o 34 aelod, a oedd yn cynnwys ffermwyr a gweithwyr amaethyddol […]
Mae dysgwr penderfynol o Wrecsam yn profi bod ymroddiad, dyfalbarhau a’r gefnogaeth gywir yn gallu troi uchelgais yn yrfa ffyniannus

Mae Olivia Kassab, cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, wedi treulio’r saith mlynedd diwethaf yn datblygu drwy lefelau amrywiol o astudio yng Ngholeg Cambria ac erbyn hyn mae hi’n cwblhau Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Sifil – taith a ddechreuodd ar raglen lefel mynediad. Tra roedd hi yn yr ysgol, cofrestrodd Olivia ar gyfer BTEC mewn Adeiladu […]
Lansio rhaglen interniaeth NEWYDD yn yr hydref i helpu pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol mewn i gyflogaeth – partneriaeth fawr rhyngom ni, DFN Project SEARCH ac Ysbyty Maelor Wrecsam

Bydd y rhaglen blwyddyn o hyd yn cael ei ddysgu yn yr ysbyty ac yn dechrau ym mis Medi ac wedi’i lunio i bontio’r bwlch rhwng addysg a’r gweithle trwy roi profiad go iawn i fyfyrwyr o leoliad GIG prysur. I ddechrau bydd y rhaglen yn cynnig llefydd i chwech o interniaid gyda cheisiadau ar […]
O Ganada i Gymru Fach: Ymweliad yn Ysgogi Ymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Newydd

Teithiodd Arweinydd Tegwch a Pherthyn Alice Churm a Rheolwr Cymorth Dysgu Sean Finnigan i Vancouver. Roedd hyn yn rhan o daith gyfnewid Taith wedi ei chydlynu gan GolegauCymru. Bu’r ddau yn ffurfio partneriaethau newydd gyda Phrifysgol Bolytechnig Kwantlen (“KPU” – Kwantlen Polytechnic University) a Chymdeithas Dod â Thrais i Ben Columbia Brydeinig (“EVABC” – Ending […]
Cerflun damwain car DRAMATIG wedi dod yn ganolbwynt pwerus yn ein hymgyrch diogelwch ffyrdd newydd – Gyrru’n Gall

Wedi’i ddadorchuddio ar safle Ffordd y Bers yn Wrecsam, mae’r “Cerflun Effaith” trawiadol yn dangos car wedi’i fewnosod mewn wal frics – atgof beiddgar a pharhaol o’r canlyniadau dinistriol a all ddilyn penderfyniad mewn eiliad wrth y llyw. Nod y cerflun sydd wedi cael ei greu gan ddarlithwyr a myfyrwyr mewn dim ond wythnos yw […]
Mae mam ysbrydoledig sydd wedi dychwelyd i addysg ar ôl bron i ddegawd yn y DU wedi cael ei henwi’n un o ddysgwyr sy’n oedolion gorau Cymru

Cafodd Maryam Avazzadeh ei henwi’n Ddysgwr Mynediad i AU y Flwyddyn gan Agored Cymru, gan ennill y categori “Ymrwymiad Rhagorol i Astudio” i gydnabod ei dygnwch, ei gwydnwch a’i rhagoriaeth academaidd. Roedd Maryam wedi cwblhau’r Diploma Mynediad i AU mewn Gofal Iechyd yng Ngholeg Cambria Iâl. Cwrs dwys, blwyddyn o hyd sy’n cwmpasu pynciau gan […]
Cafodd dysgwr 16 oed o Wrecsam lwyddiant ysgubol gan orffen yn ail yn un o gystadlaethau coginio mwyaf mawreddog y wlad

Gwnaeth Rya Smith, dysgwr sydd ar ei hail flwyddyn o gwrs TGAU Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Cambria a disgybl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, argraff fawr wrth ennill rownd gyntaf y gystadleuaeth yn Wrecsam. Wedi’i gynnal ym Mwyty Iâl Cambria, roedd y digwyddiad yn herio cystadleuwyr i greu un pryd (dwy gyfran) gan gadw at […]
Myfyrwyr Canolfan Brifysgol CAMBRIA yn dathlu carreg filltir yn eu gyrfaoedd mewn seremoni raddio gyffrous

Daeth 36 o raddedigion sydd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol yn llwyddiannus ynghyd ar gyfer dathliad blynyddol yng nghanolfan gynadledda Glanrafon yn Cambria Iâl, Wrecsam. Yn ymuno â nhw oedd darlithwyr, ffrindiau a theulu am brynhawn o gydnabyddiaeth haeddiannol. Ymysg y cymwysterau a ddathlwyd ar y diwrnod oedd Diploma Proffesiynol Lefel 4 AAT […]