Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00874 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Rhan Amser, Gradd Baglor Anrhydedd rhan-amser (3 blynedd) Bydd angen i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio a threulio peth amser ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â’r oriau addysgu. |
Adran | Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw |
Dyddiad Dechrau | 01 Oct 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2029 |
Trosolwg o’r Cwrs
Wrth ddewis Gradd Sylfaen Cambria mewn Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu (wedi'i hachredu gan Brifysgol Abertawe) byddwch yn astudio sbectrwm eang o bynciau gweithgynhyrchu uwch wedi’u datblygu yn unol â gofynion cyflogwyr. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr a phrentisiaid uwch sydd am wella mwy ar eu gwybodaeth mewn peirianneg gweithgynhyrchu awyrennau a symud ymlaen yn y maes.
Nodweddion allweddol i astudio'r radd hon yn Cambria:
• Caiff pob modiwl ei addysgu gan diwtoriaid Peirianneg Cambria neu Brifysgol Abertawe sy'n meddu ar wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd eang.
• Cysylltiadau rhagorol â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes ledled Gogledd Cymru, gyda siaradwyr busnes gwadd, cyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio.
• Cyfleusterau ac adnoddau o'r radd flaenaf yng Nghanolfan y Brifysgol newydd ar safle Glannau Dyfrdwy.
• Cymysgedd o astudiaethau academaidd sy'n gysylltiedig â cheisiadau galwedigaethol ymarferol ym mhob modiwl pwnc.
• Cymorth rhagorol i fyfyrwyr, gyda phob myfyriwr yn cael tiwtor personol a mynediad at gymorth un i un.
• Darparwr llwybrau prentisiaeth profiadol.
Modiwlau:
Blwyddyn 1:
Dysgu yn y Gwaith
Dadansoddi Peirianneg 1
Busnes, Rheoli ac Ansawdd
Ymarfer Proffesiynol mewn Peirianneg
Gwyddoniaeth Beirianyddol
Gweithgynhyrchu Peirianyddol
Egwyddorion Trydanol ac Electronig
Blwyddyn 2:
Prosiect Diwydiannol
Dadansoddi Peirianneg 2
Dynameg Hedfan
Gweithgynhyrchu Uwch, CAM ac NDT
Dadansoddi Straen a Dynameg
Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur
Deunyddiau Peirianneg
Blwyddyn 3:
Prosiect Ymchwil
Rheoli Peirianneg
Dylunio Peirianneg Uwch
Aerodynameg
Dadansoddiad Elfennau Cyfyngedig
Strwythurau Ffrâm Awyr
Optimeiddio ac Awtomeiddio Gweithgynhyrchu
Peirianneg Systemau
Deunyddiau Peirianneg Uwch
Peirianneg Ddigidol
Caiff y rhaglen hon ei chyflwyno drwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb sy'n addas i'ch anghenion unigol, yn amodol ar allu gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch ein staff. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Sylwch, lle nad yw’n bosib cyflawni lleoliadau gwaith am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd a fydd yn dal i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Dyma gwrs ar gyfer ymgeiswyr sydd yn cael eu cyflogi mewn maes peirianneg perthnasol. Bydd gofyn i gyflogwyr gynorthwyo trwy roi amser i’r ymgeiswyr ddod ar y cwrs a chynnal eu hastudiaethau, heb unrhyw ofyn i weithio oriau ychwanegol yn eu lle, neu ostwng eu cyflog.
Byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Am rangor o wybodaeth cysylltwch â Salah Berdouk ar salah.berdouk@cambria.ac.uk

Mynediad Fd/BEng Awyrennau/Gweithgynhyrchu Uwch
Fd/BEng Blwyddyn 1
Cymwysterau Safon Uwch â graddau BBB gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg. Nid oes gofyniad penodol ar gyfer y trydydd cymhwyster Safon Uwch, ond mae un o’r pynciau canlynol yn cael eu ffafrio: Cemeg, Dylunio, TG/Cyfrifiadura, Mathemateg Bellach neu Fusnes/Economeg.
Cymhwyster HNC perthnasol (120 credyd, gweler y nodyn isod ar gyfer mynediad i Flwyddyn 2).
Gall myfyrwyr sydd â Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg a gyda gradd Rhagoriaeth yn gyffredinol gan gynnwys rhagoriaeth yn y modiwlau Mathemateg Bellach, Egwyddorion Mecanyddol Pellach ac Egwyddorion Trydanol Pellach wneud cais hefyd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sefyll arholiad mynediad a llwyddo ynddo.
Fd/BEng Blwyddyn 2
Gall myfyrwyr sydd â graddau modiwlau digon uchel* ymuno ag ail flwyddyn y rhaglen Fd/BEng. Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried ceisiadau fesul achos.
* – Fel arfer, graddau Rhagoriaeth gan gynnwys mathemateg.
BEng Blwyddyn 3
Bydd Gradd Sylfaen sydd â modiwlau tebyg iawn yn cael eu hystyried fesul achos gan Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria.
• Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid bod gan bob ymgeisydd radd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg a TGAU Mathemateg neu Rifedd.
Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried fesul achos unrhyw asesiad o ddysgu blaenorol (fel dyfarniadau datblygiad proffesiynol neu ddyfarniadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth) sydd ar lefel Addysg Uwch ond heb gael credydau AU.
Os hoffech wneud cais ar gyfer:
Y Cwrs BEng Awyrennau – chwiliwch am god cwrs LP00874
Y Cwrs BEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51321
Y Cwrs FdEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51320

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd, gweithdau a thechnegau ‘Dysgu Gwrthdro’.
Bydd y rhan fwyaf o fodiwlau yn cael eu hasesu drwy arholiadau ac aseiniadau. Byddwch yn cael adborth a phwyntiau ar gyfer gwella ar gyfer pob aseiniad ac arholiad. Mae angen lleoliadau gwaith ar gyfer y modiwlau dysgu yn y gwaith. Byddwch yn treulio tua 1 wythnos y flwyddyn ar safle’r brifysgol yn Abertawe.

Potensial i symud ymlaen i Radd Meistr gyda’ch prifysgol ddewisol.
Dyma rai enghreifftiau o opsiynau gyrfa posibl yn y diwydiant Peirianneg Awyrennau:
●Peiriannydd Dylunio
●Peiriannydd Prosiect Awyrofod
●Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
●Peiriannydd Cymorth Peirianneg Gweithgynhyrchu Ymyl Rheilffordd
●Peiriannydd Rheoli Ansawdd
Mae gyrfaoedd ym maes ehangach peirianneg yn bosibl gyda’r radd hon hefyd.

£9000 y flwyddyn (FdEng)
£9000 y flwyddyn (BEng)
£9000 y flwyddyn (BEng)
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026