Llwybr 4 Project Search/ Ysbyty Maelor Wrecsam (Interniaeth â Chymorth)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01684
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Barod i gymryd eich cam cyntaf i’r gweithle? Mae’r rhaglen ysbrydoledig blwyddyn o hyd hon yn bartneriaeth rhwng Project Search, Ysbyty Maelor Wrecsam a Choleg Cambria. Mae wedi’i dylunio’n benodol i’ch helpu chi i bontio’r bwlch rhwng y coleg a gyrfa werth chweil.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar roi'r sgiliau byd go iawn i chi y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf. Byddwch chi’n treulio pedwar diwrnod yr wythnos yn ennill profiad ymarferol yn yr ysbyty ac un diwrnod ar ein safle Iâl/Wrecsam yn adeiladu eich gwybodaeth.

Yn ystod y rhaglen hon, byddwch chi’n:

*Ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr trwy weithio’n uniongyrchol mewn gwahanol adrannau o’r ysbyty.
*Datblygu mewn hyder a dysgu sut i berfformio’n llwyddiannus mewn amgylchedd proffesiynol.
*Gweithio’n annibynnol wrth i chi symud ymlaen, gan brofi eich gwerth i gyflogwyr yn y dyfodol.
*Arweiniad arbenigol gan Anogwr Swyddi sydd ar y safle i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Cafodd y rhaglen hon ei chynllunio ar gyfer dysgwyr ag anawsterau a/neu anableddau dysgu sydd angen cymorth i fynd i waith llawn amser gyda thâl. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen o raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Gellir ceisiadau gael eu gwneud gan rieni/gofalwyr/sefydliadau cyflogaeth a sefydliadau trydydd sector sy’n cefnogi oedolion ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth gyda’r cyfnod pontio i’r gwaith.

Wedi’i leoli ar y safle bedwar diwrnod yr wythnos yn Ysbyty Wrecsam Maelor, profiad gwaith ymarferol ydy mwyafrif y rhaglen. Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen at raglen brofiad gwaith unigol sy’n gysylltiedig â’u canlyniadau a’u dyheadau penodol. Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn, Gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu ADY.

Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i’w lleoliadau gwaith.
Rydym yn canolbwyntio ar eich taith unigol chi. Bydd gennych chi gynllun i’ch helpu chi i dracio eich nodau a’ch llwyddiannau personol. Bydd Mentor Cyflogadwyedd ac Anogwr Swyddi yn eich cefnogi chi i sicrhau eich bod chi’n symud ymlaen i gyflawn eich dyheadau hir dymor. Efallai y byddwch chi hefyd yn ennill cymwysterau neu unedau perthnasol tra byddwch chi ar y rhaglen.
Prif nod yr interniaeth hon ydy eich helpu i symud i gyflogaeth â thâl. Erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch chi wedi ennill y profiad ymarferol a’r arferion gwaith sydd eu hangen i sefyll allan i gyflogwyr a dechrau eich taith tuag at ddyfodol mwy disglair.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Chneifio Llysfasi a Diwrnod Agored
06/06/2026
Dewch i ymuno â ni ar ein safle Llysfasi ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer ein diwrnod agored!

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost