Tystysgrif Lefel 3 VTCT mewn Mynediad i Estheteg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA19107
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 20 Wythnos
Dechrau 21-09-26 – Ar ddydd Llun.

Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
21 Sep 2026
Dyddiad gorffen
14 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Tystysgrif Lefel 3 VTCT (ITEC) mewn Mynediad at Therapïau Esthetig wedi ei ddatblygu ar gyfer therapyddion harddwch cymwys sy'n dymuno diweddaru eu cymwysterau gyda'r newidiadau sydd ar ddod o fewn y diwydiant harddwch/Estheteg ac i sicrhau bod y canllawiau newydd gan Habia yn cael eu bodloni.

Mae'r cymhwyster hwn yn helpu therapyddion sydd eisoes wedi cwblhau datblygiad proffesiynol parhaus neu lwybr achrededig o fewn y diwydiant ac sy'n dymuno cael llwybr rheoleiddiedig ar gyfer gallu gwneud cyrsiau esthetig.

Mae’r cwrs hefyd yn addas i unigolion heb unrhyw brofiad blaenorol na chymwysterau yn y diwydiant harddwch ond sy’n dymuno symud ymlaen mewn gyrfa estheteg ar lefelau 4, 5, 6 a 7.

Mae'r cwrs hefyd wedi'i anelu at ymarferwyr esthetig â chefndiroedd meddygol fel fflebotomyddion, nyrsys deintyddol, parafeddygon, meddygon ac ati, ac nad oes ganddynt unrhyw gymhwyster ffurfiol triniaethau i’r wyneb, na chymwysterau anatomeg a ffisioleg.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o gymwysterau uwch ar gyfer y croen ar lefel 4.

Mae’r cwrs yn cynnwys pum uned sy’n cynnwys:
- Dadansoddi’r croen a gofalu am groen yr wyneb
- Ymgynghoriadau a gofalu am gleientiaid
- Anatomi, ffisioleg a phatholeg
- Gwyddor drydanol
- Cynnal iechyd a diogelwch yn y salon.
Byddai’n fanteisiol cael cymhwyster Lefel 2 mewn Therapi Harddwch, ond nid ydy hynny’n hanfodol.
UBT285 – Dadansoddi’r croen a gofalu am groen yr wyneb – wedi’i asesu gydag asesiad ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig yn tystio i ddeilliannau dysgu gwybodaeth, ac arholiad damcaniaeth amlddewis.

UBT286 – Ymgynghoriadau a gofalu am gleientiaid – wedi’i asesu gydag aseiniadau ysgrifenedig, technegau/ffurflenni ymgynghoriad, ac arholiad damcaniaeth amlddewis.

UBT287 – Anatomi, ffisioleg a phatholeg – wedi’i asesu gydag aseiniadau ysgrifenedig yn tystio i ddeilliannau dysgu gwybodaeth, cwblhau gwaith dosbarth, ac arholiad damcaniaeth amlddewis.

UBT288 – Gwyddor drydanol – wedi’i asesu gydag aseiniadau ysgrifenedig, deilliannau dysgu gwybodaeth ac arholiad theori atebion aml-ddewis.

UBT289 – Cynnal iechyd a diogelwch yn y salon – wedi’i asesu gydag aseiniadau ysgrifenedig yn tystio i ddeilliannau dysgu gwybodaeth ac arholiad damcaniaeth amlddewis.

Mae cyfleoedd gyrfa ar gyfer y cymhwyster hwn yn cynnwys triniaethau o fewn y diwydiant estheteg neu ddatblygiad proffesiynol parhaus ar lefelau l 4, 5, 6 a 7.

Prif ddiben y cymhwyster hwn ydy paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth ychwanegol ar lefel 4+ yn y diwydiant harddwch estheteg. Bydd cyflawni’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymwysterau arbenigol ychwanegol ar Lefel 4 a 5, er enghraifft:

– Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Pilio’r Croen
– Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Nodwyddo’r Croen
– Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Uwchsain
– Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Dermablaenio
– Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Uwchsain Dwyster Uchel wedi’i Ffocysu
– Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Micropigmentiad Croen y Pen
– Diploma Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Triniaethau Esthetig Uwch

£650.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost