Diploma Lefel 2 UAL mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP87923
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth yn gyflwyniad i agweddau technegol a chreadigol y diwydiannau cynhyrchu sain a cherddoriaeth.

Trwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu am:
- Music Production and Sequencing
- Live Sound Production
- Studio Recording and Mixing

Bydd y cwrs galwedigaethol hwn yn eich cyflwyno i bynciau a sgiliau allweddol trwy ddatblygu sgiliau ymarferol. Yna byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn prosiect sy’n senario o’r byd go iawn.

Erbyn diwedd y flwyddyn byddwch yn dewis prosiect sy'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau gan ffurfio sail i'ch prosiect mawr terfynol. Trwy gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn ennill Diploma UAL Lefel 2 mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth.
Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl), A Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 4 TGAU gradd 3 neu uwch, gan gynnwys:Iaith Saesneg A Mathemateg

NEU Gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus, yn ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Trwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eich hun yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes. Mae gradd llwyddo / methu i bob uned o astudiaeth meithrin sgiliau.

Ar ddiwedd bob blwyddyn byddwch yn astudio uned brosiect mawr terfynol sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch dewis a bydd yn ffurfio eich gradd gyfansawdd derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar bortffolio, gwaith cwrs a thasgau ymarferol yn ogystal â chymryd rhan mewn cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.
Mae’r diploma hwn yn addas ar gyfer symud ymlaen at astudio Lefel 3 neu i baratoi ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau, neu leoliadau gwaith. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

– Peiriannydd Sain Byw
– Peiriannydd Recordio
– Cynhyrchydd Radio
– Recordydd Sain ar gyfer Teledu neu Ffilm
– Golygydd
– Artist Foley
– DJ
– Cynhyrchydd Cerddoriaeth
– Rheolwr Cerddoriaeth

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds