Diploma Lefel 3 UAL mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP81016
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.

Blwyddyn 1af – Diploma, paratoad addas ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau neu Brifysgol (gyda chymwysterau lefel 3 eraill) yn symud ymlaen at yr 2il Flwyddyn – Diploma Estynedig sy’n addas ar gyfer symud ymlaen yn uniongyrchol i’r Brifysgol neu gyflogaeth yn y diwydiant.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i greu traciau eich hun? Mae’r Diploma UAL mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth yn rhoi profiad ymarferol o fod mewn stiwdio yn ogystal â’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i adael eich marc ar y diwydiant cerddoriaeth fodern. Beth bynnag eich nod, o gymysgu mewn gigiau byw, creu traciau bandiau yn y stiwdio neu ddylunio sain ar gyfer ffilmiau a gemau, mae’r cwrs yma yn rhoi’r sylfaen ymarferol sydd ei angen arnoch. Mae’r cwrs hefyd yn eich paratoi gyda’r cymwysterau technegol ac academaidd i barhau gyda’ch astudiaethau ar lefel prifysgol.

Trwy gydol y cwrs byddwch yn canolbwyntio ar:

* Cynhyrchu Sain Fyw: Dysgu sut i feistroli peirianneg y brif system sain, cymysgu ar gyfer monitorau, a gweithrediadau llwyfan, a dysgu beth sydd ei
angen i drefnu a rheoli digwyddiadau byw go iawn.
* Recordio yn y Stiwdio: Cyfle i gamu i mewn i’n stiwdios pwrpasol i gynnal sesiynau sy’n cydymffurfio â safonau’r diwydiant. Byddwch yn gweithio’n
uniongyrchol gyda cherddorion i recordio a chynhyrchu sain o ansawdd uchel, gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
* Cynhyrchu Cerddoriaeth: Dysgu sut i feistroli technegau golygu sain, MIDI uwch a DAW safonol y diwydiant i gynhyrchu, ailgymysgu a chwblhau
traciau o ansawdd proffesiynol.

Arbenigo yn Eich Sain. Wrth i chi symud ymlaen, cewch y rhyddid i ganolbwyntio ar y meysydd sy'n eich ysbrydoli fwyaf. Bydd cyfle i ymroi yng ngwaith ôl-gynhyrchu sain ar gyfer ffilm, teledu a gemau, neu berffeithio’r grefft o roi'r manylion gorffenedig hynny drwy ddatblygu technegau proffesiynol ar gyfer cymysgu, meistroli a dosbarthu.

Profiad yn y Byd Go Iawn a Chydweithio. Mae gennym gysylltiadau cryf â lleoliadau cerddoriaeth lleol a chwmnïau cynhyrchu ledled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Wrth astudio gyda ni, cewch gyfle i ddatblygu eich portffolio drwy weithio ar wyliau, perfformiadau byw a digwyddiadau a drefnir gan y coleg. Byddwch hefyd yn cydweithio'n uniongyrchol â myfyrwyr o'n cyrsiau Perfformio Cerddoriaeth a'r Cyfryngau; mae hyn yn adlewyrchu sut mae'r diwydiant yn gweithio, drwy ddod â phrosiectau creadigol go iawn yn fyw ar y cyd.

Nid oes erioed wedi bod yn amser gwell i gamu i'r maes hwn. Ar hyn o bryd, mae diwydiannau creadigol y DU yn bwerdy gwerth £150 biliwn y flwyddyn, ac mae amcangyfrifon yn dangos y gallai'r sector greu hyd at filiwn o swyddi newydd ledled y DU erbyn 2030. Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r fantais o feddu ar amrywiaeth o sgiliau i chi, gan eich galluogi i sicrhau un o'r swyddi hynny.

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys:
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl).
A
Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 5 TGAU gradd 4 neu uwch, gan gynnwys:
TGAU Iaith Saesneg
A
TGAU Mathemateg, neu Lefel 2 mewn Sgiliau Swyddogaethol Mathemateg.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen:
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus, y ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd ennill graddau da yn rhoi rhagor o ddewisiadau i chi a byddant yn gallu arwain at gael lle ar gwrs lefel uwch
Mae’r cwrs yn cynnwys hyd at 168 pwynt UCAS ac mae’n addas ar gyfer mynediad at ystod eang o gyrsiau gradd israddedig uchel eu parch yn genedlaethol. Mae gan Goleg Cambria enw da ar gyfer datblygu myfyrwyr i’r brifysgol ac yn uniongyrchol i ddiwydiant. Trwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eich hun yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes.

Mae gradd llwyddo / methu i bob uned o astudiaeth meithrin sgiliau. Ar ddiwedd bob blwyddyn byddwch yn astudio uned brosiect mawr terfynol sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch dewis a bydd yn ffurfio eich gradd gyfansawdd derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar bortffolio, gwaith cwrs a thasgau ymarferol yn ogystal â chymryd rhan mewn cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.

Gall y cwrs agor drysau i’r gyrfaoedd canlynol:

– Peiriannydd Sain Byw
– Peiriannydd Recordio
– Cynhyrchydd Radio
– Recordydd Sain ar gyfer Teledu neu Ffilm
– Golygydd
– Artist Foley
– DJ
– Cynhyrchydd Cerddoriaeth
– Rheolwr Cerddoriaeth

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds