Lefel 3 Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg yn y Cyfryngau Creadigo

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01676
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2027
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i ddatgloi eich potensial creadigol a dechrau gyrfa ddeinamig yn y diwydiant cyfryngau? Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol wedi'i lunio ar gyfer darpar wneuthurwyr ffilm a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, fel chi! Bydd y cwrs cyffrous yma, sy'n canolbwyntio ar Ffilm a Theledu, yn eich herio chi i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, gan eich paratoi chi ar gyfer hunangyflogaeth neu astudiaethau pellach yn y brifysgol.

Yr Hyn y Byddwch Chi’n Ei Ddysgu

Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth gadarn o'r diwydiant cyfryngau ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol trwy brofiad ymarferol. Bydd ein Pecyn Cymorth Sgiliau Sgrin cychwynnol yn eich cyflwyno chi i ystod eang o ddisgyblaethau, cyn i chi arbenigo yn y maes o'ch dewis.

Mae’r cwrs yma yn cynnwys amrywiaeth o bynciau cyffrous, gan gynnwys:

* Gwneud ffilmiau
* Golygu fideo
* Ysgrifennu sgriptiau
* Ffotograffiaeth

ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol ar draws llwyfannau amrywiol, gan ddefnyddio ein cyfleusterau sydd o safon y diwydiant. Dychmygwch eich hun yn ein hystafell sgrin werdd, ein stiwdio ffilm, neu ein stiwdio ffotograffiaeth! Byddwch chi hefyd yn gweithio yn ein stiwdios sy'n defnyddio cyfrifiaduron Mac, gan feistroli meddalwedd fel Adobe Premiere Pro, Adobe Photoshop ac Adobe Audition.

Ydy’r Cwrs Yma i Chi?

Mae'r cwrs yma yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd ag angerdd am weithio yn y diwydiant cyfryngau – boed hynny fel gwneuthurwr ffilmiau llawrydd, ym maes gweithrediadau stiwdio deledu, neu drwy symud ymlaen i astudiaethau cyfryngau pellach ar lefel gradd. Er nad oes angen profiad blaenorol o'r cyfryngau arnoch chi, mae gwir ddiddordeb mewn ffilm a'r cyfryngau yn hanfodol. Dylech chi hefyd fwynhau cydweithio ag eraill, datblygu eich syniadau creadigol eich hun, a bod yn ddysgwr annibynnol.
Wrth wneud cais o ysgol yng Nghymru: 5 TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Iaith Gyntaf), (Gwobr Sengl neu Ddwbl),
A
Mathemateg a Rhifedd (Gwobr Ddwbl).

Wrth wneud cais o ysgol yn Lloegr: 5 TGAU ar radd 4 neu uwch, gan gynnwys: TGAU Iaith Saesneg,
A
Mathemateg TGAU, neu Fathemateg Sgiliau Ymarferol Lefel 2.

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen

Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd eisoes yn y Coleg): Cwblhau rhaglen berthnasol Lefel 2 yn llwyddiannus, ynghyd â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu’r hyn sy’n cyfateb iddyn nhw ar lefel TGAU.

Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Po orau ydy eich graddau, mwyaf ydy’r nifer o opsiynau a fydd ar gael i chi; gallai hyn hefyd arwain at gael lle ar gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn yn erbyn meini prawf clir ar gyfer pob uned; bydd yr holl waith yn cael ei asesu’n fewnol a’i ddilysu gan gymedrolwr sy’n ymweld – felly, ni fydd arholiadau ffurfiol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch chi’n ennill Diploma Lefel 3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.
Ar ôl ei gwblhau, byddwch chi’n barod i ddilyn swyddi yn y diwydiant cyfryngau neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun fel gweithiwr llawrydd! Mae’r cymhwyster yma yn galluogi mynediad uniongyrchol i brifysgol ar gyfer astudiaeth lefel gradd os byddwch chi’n cyflawni’r radd derfynol dymunol. Mae hefyd yn darparu llwybrau i raglenni prentisiaeth uwch.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds