Home > Oedolion a Rhan-amser > Ysgol Fusnes Cambria
Croeso i Ysgol Fusnes Cambria, lle mae ein cyrsiau’n cael eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant sydd â blynyddoedd o brofiad yn eu meysydd.
Mae ein holl gyrsiau’n cael eu cyflwyno yn ein Hysgol Fusnes bwrpasol yn Llaneurgain ond gellir cyflwyno’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ar-lein hefyd o gysur eich cartref neu’ch desg eich hun!
Mae hyn yn galluogi dysgu hyblyg i gyd-fynd â’ch gwaith a’ch bywyd personol, mae ein tiwtoriaid bob amser yn hapus i’ch helpu i ddysgu yn y ffordd orau sy’n addas i chi.
I holi am alwad, llenwch y ffurflen isod a byddwn ni’n cysylltu â chi.
Ble i Ddod o Hyd i Ni
Ffordd Treffynnon
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6AA
Mae ein Hysgol Fusnes wedi’i lleoli llai na 5 munud oddi ar yr A55 ac 20 munud y tu allan i Gaer mewn cefn gwlad prydferth yn Llaneurgain, Sir y Fflint.
Mae ein gofod dysgu modern pwrpasol gwerth £3.5 miliwn wedi’i leoli yn amgylchedd syfrdanol Llaneurgain, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae gan yr Ysgol Fusnes ddau lawr yn llawn gyda'r cyfleusterau rhyngweithiol diweddaraf. Mae’n gartref i rai o’n cyrsiau datblygiad proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddiant cyflogwyr.
Os ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld y safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, gallwch chi o gysur eich cartref eich hun.
Os oes gennych penset VR, gallwch weld y daith mewn rhith realiti.
Cysylltwch â Ni i Gael Rhagor o Wybodaeth!
Rydym yn cynnig ein cyrsiau trwy gydol y flwyddyn. Os ydych chi wedi methu dyddiad diweddaraf y cwrs, edrychwch ar y calendr isod i weld pryd bydd y nesaf yn dechrau!
AAT – Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 mewn Cyfrifeg – Llaneurgain
AAT – Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 mewn Cyfrifeg – Iâl
AAT – Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg – Llaneurgain
AAT – Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg – Iâl
AAT – Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol – Llaneurgain
AAT – Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol – Iâl
Gradd Rheoli Busnes Cymhwysol
CIPD – Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 mewn Arferion Pobl
CIPD – Diploma Cysylltiol Lefel 5 mewn Rheoli Pobl
ILM – Cymhwyster Lefel 2 mewn Sgiliau Tîm ac Arwain
ILM – Cymhwyster Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli
ILM – Cymhwyster Lefel 4 mewn Arwain a Rheoli
ILM – Cymhwyster Lefel 3 mewn Annog a Mentora
ILM – Cymhwyster Lefel 5 mewn Annog a Mentora
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
IOSH – Rheoli’n Gynaliadwy
IOSH – Gweithio’n Ddiogel
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant – Iâl
NEBOSH – Tystysgrif Tân
NEBOSH – Tystysgrif Gyffredinol Lefel 3
NEBOSH – Tystysgrif Lefel 4 mewn Adeiladu
Prince2 Sylfaen
ILM – Cymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
IOSH – Gweithio’n Ddiogel
Cyflwyniad i Hyfforddi’r Hyfforddwr
NEBOSH – Tystysgrif Lefel 3 yn yr Amgylchedd
ILM – Cymhwyster Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
IOSH – Rheoli’n Gynaliadwy
NEBOSH – Ymwybyddiaeth o’r Amgylchedd
Prince2 Ymarferydd
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
IOSH – Gweithio’n Ddiogel
ILM – Cymhwyster Lefel 2 mewn Sgiliau Tîm ac Arwain
ILM – Cymhwyster Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli
ILM – Cymhwyster Lefel 4 mewn Arwain a Rheoli
ILM – Cymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant
NEBOSH – Tystysgrif Lefel 3 yn yr Amgylchedd
NEBOSH – Tystysgrif Gyffredinol Lefel 3
NEBOSH – Diploma Lefel 6 yn yr Amgylchedd
ILM – Cymhwyster Lefel 2 mewn Sgiliau Mentora Effeithiol
ILM- Cymhwyster Lefel 5 mewn Annog a Mentora
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
NEBOSH – Tystysgrif Tân
NEBOSH – Tystysgrif Lefel 4 mewn Adeiladu
Prince2 Sylfaen
ILM – Cymhwyster Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli
ILM – Cymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli
IOSH – Rheoli’n Gynaliadwy
Cyflwyniad i Hyfforddi’r Hyfforddwr
ILM – Cymhwyster Lefel mewn Sgiliau Tîm ac Arwain
ILM – Cymhwyster Lefel 4 mewn Arwain a Rheoli
ILM – Cymhwyster Lefel 3 mewn Annog a Mentora
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant – Iâl
NEBOSH – Ymwybyddiaeth o’r Amgylchedd
NEBOSH – Tystysgrif Lefel 3 yn yr Amgylchedd
NEBOSH – Diploma Cenedlaethol Lefel 6 (Uned DN3)
Prince2 Sylfaen
Prince2 Ymarferydd
ILM – Cymhwyster Lefel 2 mewn Sgiliau Tîm ac Arwain
ILM – Cymhwyster Lefel 4 mewn Arwain a Rheoli
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
IOSH – Rheoli’n Gynaliadwy
IOSH – Gweithio’n Ddiogel
Cyflwyniad i Hyfforddi’r Hyfforddwr
NEBOSH – Ymwybyddiaeth o’r Amgylchedd
NEBOSH – Tystysgrif Gyffredinol Lefel 3
NEBOSH – Diploma Lefel 6 yn yr Amgylchedd
IOSH – Rheoli’n Ddiogel
NEBOSH – Ymwybyddiaeth o’r Amgylchedd
Prince2 Ymarferydd
Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
"*" indicates required fields
Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u cynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion unigryw eich sefydliad. Yn hytrach na un dull ar gyfer pawb, rydym yn gweithio’n agos gyda chi i ddeall eich nodau a’ch heriau, gan greu hyfforddiant wedi’i deilwra sy’n cael effaith wirioneddol.
P’un a ydych chi’n edrych i uwchsgilio staff, gwella perfformiad, neu helpu gyda thwf strategol, mae ein rhaglenni wedi’u teilwra yn sicrhau dysgu perthnasol ac ymarferol y gellir ei gymhwyso ar unwaith yn y gweithle.
Mae cyrsiau’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
Eisiau cwrs pwrpasol wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer eich tîm? Gadewch eich manylion a byddwn mewn cysylltiad i drafod y posibiliadau.
Mae ein holl gyrsiau’n cael eu cyflwyno yn ein Hysgol Fusnes bwrpasol yn Llaneurgain, gan ddarparu amgylchedd dysgu proffesiynol ac ysbrydoledig wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ein myfyrwyr. Mae ein staff addysgu arbenigol yn dod â chyfoeth o brofiad diwydiant i’r ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod yr addysg a gewch yn ymarferol ac yn berthnasol i fyd busnes heddiw.
Gyda’u harweiniad, byddwch yn dod i ddeall y byd go iawn ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Cymerwch olwg isod i ddod i adnabod y gweithwyr proffesiynol ymroddedig a fydd yn cefnogi eich taith ac yn eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.
Gyda thros ddegawd o brofiad yn darlithio, mae Pete yn addysgwr uchel ei barch ym maes iechyd a diogelwch, gan arbenigo mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol, a chyrsiau Iechyd a Diogelwch IOSH a NEBOSH hyd at lefel 6. Mae ei gefndir ac arbenigedd unigryw yn ei wneud yn hyfforddwr deinamig sy’n dod â gwybodaeth am theori ac ymarferol i’r ystafell ddosbarth.
Cyn dod yn addysgwr yn Cambria yn 2014, gwasanaethodd Pete 15 mlynedd yng Nghomando’r Morlu Brenhinol fel Peiriannydd Ymosod. Yn y rôl hon, darparodd gefnogaeth beirianneg hanfodol i weithrediadau milwrol rheng flaen mewn amgylcheddau risg uchel ledled y byd. Nid yn unig y gwnaeth y profiad helaeth hwn hogi ei sgiliau mewn rheoli risg a phrotocolau diogelwch ond hefyd feithrin ymdeimlad cryf o ddisgyblaeth a gwydnwch – rhinweddau y mae bellach yn eu trosglwyddo i’w fyfyrwyr.
Wedi ymrwymo i aros ar flaen y gad o ran addysg iechyd a diogelwch, mae Pete yn diweddaru ei wybodaeth am safonau’r diwydiant ac arferion gorau yn barhaus. Mae’n ymdrechu i greu amgylchedd dysgu deniadol sy’n annog myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth mewn senarios byd go iawn, gan eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn iechyd a diogelwch.
Mae Pete yn angerddol am rymuso’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol diogelwch a meithrin diwylliant o ymwybyddiaeth diogelwch. Trwy ei ymroddiad a’i arbenigedd, nid yn unig y mae Pete yn siapio arweinwyr iechyd a diogelwch uchelgeisiol ond mae hefyd yn cyfrannu at y genhadaeth ehangach o wella diogelwch yn y gweithle ar draws amrywiol ddiwydiannau.
Dechreuodd Julia ei gyrfa yn y diwydiant manwerthu teithio fel ymgynghorydd gwerthu cyn cael ei dyrchafu i fod yn rheolwr yn 21 oed.
Wrth gael ei dau blentyn, gorffennodd Julia ei gradd cyn penderfynu dechrau ym maes addysgu ac astudio TAR.
Ymunodd â Choleg Cambria ym 1999 fel darlithydd mewn Addysg Bellach, cyn symud ymlaen i swydd reoli gan reoli 26 o staff mewn tri maes cwricwlwm ar ddau safle.
Mae Julia yn hynod angerddol am arwain a rheoli a’r rôl anferthol sydd gan reolwyr gweithredol rheng flaen ar gael y gorau o bobl yn y gweithle. Mae’n mwynhau rhannu ei gwybodaeth yn y sectorau preifat a chyhoeddus, a datblygu rheolwyr presennol a rheolwyr y dyfodol.
Ymunodd Elizabeth Roberts â Choleg Cambria yn 2024, gan ddod â thros 27 mlynedd o brofiad helaeth yn niwydiannau cyfrifeg, rheolaeth ariannol ac arweinyddiaeth busnes. Maw hi’n addysgu ystod o gymwysterau, gan gynnwys Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg, a’r modiwl Cyfrifeg ar y rhaglen BSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol.
Mae Elizabeth yn Gyfrifydd Siartredig cymwys gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Mae ei chefndir proffesiynol yn cynnwys dau ddegawd o weithio ym maes cyfrifyddiaeth, gan arbenigo mewn adrodd ariannol, archwilio, a gwasanaethau trethiant ar gyfer ystod eang o gleientiaid. Gan adeiladu ar y sylfaen hon, aeth ymlaen i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Ariannol i grŵp o gwmnïau manwerthu, lle bu’n arwain cynllunio ariannol strategol, adrodd rheoli, a llywodraethu corfforaethol dros gyfnod o saith mlynedd.
Gyda’i phrofiad cyfunol yn y diwydiant ac yn ymarferol, mae Elizabeth yn dod â mewnwelediad ac arbenigedd o’r byd go iawn i’r ystafell ddosbarth, gan baratoi myfyrwyr gyda’r sgiliau technegol a’r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn cyfrifyddiaeth a rheolaeth ariannol.
Ymunodd Ant â Choleg Cambria yn 2022 fel darlithydd ar y cyrsiau ILM Lefel 3 a Lefel 5 mewn Annog a Mentora. Yn ystod ei yrfa, mae wedi gweithio mewn sefydliadau addysg amrywiol, mewn ystod eang o swyddi gan gynnwys Prif Weithredwr!
Yn ogystal â gweithio yn Cambria, mae gan Ant ei fusnes annog a mentora ei hun yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Yn ei amser ei hun, mae’n ymchwilio ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn astudiaethau proffesiynol ac yn dod o hyd i amser i gerdded a nofio mewn dŵr agored.
Ymunodd Susan Hughes â Choleg Cambria yn 2024 fel darlithydd Lefel 5 CIPD a Rheolaeth AD Ryngwladol yn y rhaglen Busnes Rheoli Cymhwysol. Mae’n addysgu ystod o bynciau, gan gynnwys Lefel 3 CIPD, Annog a Mentora, rhaglenni corfforaethol wedi eu teilwra a chyrsiau undydd.
Gyda phrofiad helaeth yn y diwydiant, dechreuodd Susan ei gyrfa yn y sector teithio gydag American Express cyn symud ymlaen i swyddi uwch rhanbarthol gydag ABTA. Yn ddiweddarach, symudodd i’r sector gyhoeddus mewn swyddi amrywiol sy’n canolbwyntio ar bobl, gan arwain at weithio am 9 mlynedd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol ar gyfer darparwr tai. Cyn dechrau ym maes addysg, rhedodd Susan ei hymgynghoriaeth ei hun, gan gynorthwyo busnesau gyda gwasanaethau AD ac annog gweithredol.
Yn aelod Siartredig o CIPD, Anogwr Gweithredol cymwys, a hwylusydd Dysgu Gweithredol, mae Susan yn angerddol am ddatblygu gweithwyr proffesiynol pobl y dyfodol. Y tu allan i’r gwaith, mae hi’n mwynhau marchogaeth ceffylau, nofio mewn dŵr agored, teithio, a threulio amser gyda’i theulu, ffrindiau ac anifeiliaid.
Ymunodd Amy Griffiths â Choleg Cambria yn 2023 ac mae’n addysgu’r cyrsiau PRINCE2 Sylfaen ac Ymarferydd, yn ogystal â modiwlau’r radd FSc a BSc Rheoli Busnes Cymhwysol, yn arbenigo mewn Rheoli Prosiectau. Gyda thros ddegawd o brofiad yn y sector gwasanaethau ariannol, Mae Amy yn Weithiwr Proffesiynol Prosiectau Siartredig (APM) ac yn Uwch Reolwr Prosiect ardystiedig PRINCE2.
Dechreuodd ei gyrfa fel Dadansoddydd Busnes cyn symud ymlaen i Weithredu Newid ac arweinyddiaeth uwch prosiectau yn y pen draw, lle bu’n llwyddo i reoli rhaglenni byd-eang cymhleth. Mae Amy hefyd yn arbenigwr mewn cyflawni prosiectau ystwyth a TG, ac mae ganddi radd BSc mewn Rheoli Prosiectau.
Mae hi’n angerddol am ddysgu parhaus, rhagoriaeth weithredol, a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol prosiect. Mae Amy yn dod â rheoli prosiectau yn fyw trwy enghreifftiau o’r byd go iawn, gan rymuso dysgwyr i ffynnu mewn amgylcheddau busnes deinamig. Mae ei hegni, ei harloesedd, a’i dealltwriaeth ddofn o fframweithiau prosiectau yn creu profiad dysgu difyr ac ymarferol.
Mae Sue McCrossan wedi bod yn addysgu yng Ngholeg Cambria ers 2002, gan gyflwyno cymwysterau ILM o Lefelau 2 i 5 mewn Arwain a Rheoli, ochr yn ochr â chyrsiau byr a chyrsiau wedi eu teilwra. Mae hi hefyd yn addysgu modiwlau lefel gradd ar Lefelau 5 a 6, gan gefnogi datblygiad arweinwyr sy’n dod i’r amlwg ar draws ystod o ddiwydiannau.
Cyn symud i addysg, enillodd Sue brofiad helaeth mewn manwerthu, gwasanaethau i gwsmeriaid, cyllid ac yswiriant. Daliodd amryw o rolau rheoli, gan gynnwys arweinydd tîm, rheolwr tîm a rheolwr adran, gan roi sylfaen gref iddi mewn rheoli pobl ac arweinyddiaeth weithredol.
Mae Sue yn eiriolwr angerddol dros ddysgu gydol oes ac mae’n mwynhau bod yn fyfyrwraig cymaint ag yn athrawes. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar draethawd hir sy’n archwilio arweinyddiaeth dosturiol yn y sector gofal iechyd. Mae ei phrofiad ymarferol, ei mewnwelediad academaidd a’i hymrwymiad i ddatblygu eraill yn ei gwneud yn addysgwraig werthfawr ac ysbrydoledig sy’n dod â hygrededd a gofal i’r ystafell ddosbarth.
Mae Jayne Headon yn dod â thros tair degawd o brofiad arwain sy’n cwmpasu’r lluoedd arfog, mentrau preifat, gwasanaethau cyhoeddus, a’r sector gwirfoddol. Dechreuodd ei gyrfa ym 1986 yn y fyddin, lle datblygodd arweinyddiaeth graidd a disgyblaeth sydd wedi sail i’w thaith broffesiynol amrywiol. Mae Jayne wedi dal amrywiaeth o rolau uwch, gan gynnwys Rheolwr Gweithredol, Rheolwr Cyffredinol, Rheolwr Prosiectau, Rheolwr Canolfan, a Phrif Weithredwr dros dro, ar draws sectorau fel addysg, gofal iechyd, a darpariaeth hyfforddiant.
Mae ei harbenigedd eang yn cynnwys arwain timau amlswyddogaethol, gweithredu newid sefydliadol, a goruchwylio gweithrediadau ar raddfa fawr, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Gyda phrofiad mewn amgylcheddau addysg bellach a hyfforddiant preifat, mae hi hefyd wedi addysgu ac asesu cymwysterau o Ddatblygiad Plant i Arwain a Rheoli.
Mae cefndir diwydiant Jayne yn llywio ei rôl fel Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer ILM ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer y radd Rheoli Busnes Cymhwysol, lle mae hi’n defnyddio ei mewnwelediad ymarferol i baratoi myfyrwyr ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn amgylcheddau busnes cymhleth, sy’n esblygu’n gyflym.
Mae Kate yn dod â dros ddau ddegawd o brofiad byd-eang mewn Gweithrediadau a Rheoli Prosiectau o fewn y diwydiant Ymchwil Marchnad. Dechreuodd ei gyrfa yn Japan, gan addysgu trwy Raglen Saesneg Japan, cyn symud i rolau arwain yn rheoli timau ar draws yr Ariannin, yr Unol Daleithiau, Portiwgal, India, Japan, Hong Kong, a De Affrica. Mae hi wedi arwain mentrau mewn gweithrediadau busnes, strategaeth cleientiaid, gweithredu technoleg, a gwella prosesau. Yn ‘Black Belt’ ardystiedig mewn Gwella Prosesau, anogwr cymwys, ymarferydd NLP ac amserlenni, a hwylusydd, mae Kate yn cyfuno gwybodaeth ymarferol â damcaniaeth i ymgysylltu ac ysbrydoli dysgwyr.
Yn eiriolwr angerddol dros ddysgu gydol oes ac amrywiaeth, mae hi’n hyrwyddo amgylcheddau sy’n grymuso unigolion i ffynnu’n broffesiynol ac yn bersonol. Mae Kate hefyd yn hyrwyddo ERG i harneisio meddwl yn greadigol. Y tu allan i Goleg Cambria, mae hi’n hyfforddi timau trwy newid a tharfu, yn ysgrifennu llyfrau plant a hunangymorth, ac yn mwynhau nofio mewn dŵr oer, cerdded, ac amser llawn chwerthin gydag anwyliaid. Mae hi hefyd yn aelod o Toastmasters ac yn siaradwr TEDx.
Gyda thros 25 mlynedd o brofiad mewn addysg ac angerdd dwfn dros iechyd a diogelwch, mae Steve yn ddarlithydd ac yn arbenigwr nodedig yng nghyrsiau Iechyd a Diogelwch NEBOSH, hyd at Lefel 6. Yn enwog am ei arddull addysgu ddifyr a’i wybodaeth helaeth am y diwydiant, mae Steve wedi ymroi ei yrfa i rymuso’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch.
Mae Steve wedi ennill ei brofiad diwydiannol yn y sector gweithgynhyrchu cemegol. Mae hyn yn caniatáu iddo ddod â mewnwelediadau byd go iawn i’r ystafell ddosbarth, gan bontio’r bwlch rhwng damcaniaeth ac ymarfer fel bod myfyrwyr yn derbyn addysg gynhwysfawr.
Wedi ymrwymo i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y diwydiant, mae Steve yn diweddaru ei wybodaeth a’i sgiliau’n barhaus, gan sicrhau bod myfyrwyr yn elwa o’r arferion gorau diweddaraf a’r newidiadau rheoleiddio. Nid yn unig mae’n hyfforddwr gwybodus ond hefyd yn fentor sy’n ysbrydoli myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd a blaenoriaethu diogelwch ym mhob agwedd ar eu gwaith.
Ymunodd Jeanette â’r coleg ym 1997 ac mae wedi addysgu ar nifer o gyrsiau proffesiynol sy’n gysylltiedig â busnes.
Cyn ymuno â’r coleg, bu Jeanette yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd mewn rolau gan gynnwys sicrhau ansawdd, dysgu a datblygu ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o dîm o hyfforddwyr ac aseswyr mewnol.
Y tu allan i’r gwaith, gwirfoddolodd Jeanette gyda Girlguiding a helpodd hi i ddatblygu sgiliau mewn cynhwysiant, arweinyddiaeth, cynllunio a gwydnwch.
Yn ogystal â chyflawni ei TAR a’i TUAAU, mae Jeanette wedi cymhwyso CIPD sy’n golygu bod ganddi ddealltwriaeth o’r egwyddorion sylfaenol, y damcaniaethau a’r arferion gorau ar draws amrywiol feysydd AD a Dysgu a Datblygu. Mae ymgymryd â’r cymwysterau hyn a chymwysterau eraill wedi ei helpu i ddatblygu sgiliau i ddadansoddi materion cymhleth, nodi achosion sylfaenol, a datblygu atebion effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth ac arferion gorau.
Mae Debbie Meredith wedi bod yn addysgu cymwysterau AAT yng Ngholeg Cambria ers 2009, gan gyflwyno’r Dystysgrif Lefel 2, y Diploma Uwch Lefel 3 a’r Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Cyfrifeg. Mae ei haddysgu wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn profiad go iawn a enillwyd o redeg ei busnes ei hun a gweithio yn y sector ariannol.
Dechreuodd Debbie ei gyrfa yn rheoli tafarn am bedair blynedd a hanner, lle’r oedd yn ymdrin â holl agweddau ariannol y busnes. Dechreuodd y profiad ymarferol hwn angerdd am gyfrifeg, gan ei harwain at ailhyfforddi yng Ngholeg Cambria Iâl, ble astudiodd AAT. Ar ôl cwblhau Lefel 3, dechreuodd ei busnes llwyddiannus mewn cadw cyfrifon wrth barhau â’u hastudiaethau Lefel 4.
Mae ei chefndir ymarferol yn ei galluogi i ddod â theori cyfrifeg yn fyw yn yr ystafell ddosbarth, gan helpu ei dysgwyr i ddeall y modd mae’n cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau busnes go iawn. Tu allan i’r gwaith, mae Debbie’n mwynhau cadw’n heini, gan fynd â’i dau gi am dro gyda’i gŵr, a chynnal ffordd iach o fyw.
Mae Gary yn siaradwr Cymraeg rhugl gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau addysg orfodol, addysg bellach ac addysg uwch. Yn ategu ei gefndir arwain, mae ei Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth a Thystysgrif Ôl-raddedig Broffesiynol mewn Arwain a Rheoli Ysgol.
Fel cyn-bennaeth, mae Gary wedi arwain newid sefydliadol sylweddol a gweithredu arferion addysgu blaenllaw yn y sector. Mae’n parhau i fod yn angerddol iawn dros addysg gynhwysol, ymrwymiad sydd wedi’i wreiddio yn ei brofiad blaenorol fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Ers ymuno â Choleg Cambria yn 2016, mae Gary wedi arwain y rhaglen PCET Hyfforddiant Athrawon ac wedi darlithio ar y radd Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod ers bron i ddeng mlynedd. Yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch gyda Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch, mae’n brofiadol wrth ddylunio a dilysu cymwysterau. Mae gan Gary hanes cryf o ddatblygiad proffesiynol, gan fod wedi mentora penaethiaid, wedi cefnogi Awdurdodau Addysg Lleol gyda hyfforddiant staff, ac wedi siarad mewn amrywiol gynadleddau ar strategaethau addysgu a dysgu effeithiol.
Y tu hwnt i’r coleg, mae Gary yn Arholwr Allanol ar gyfer PCET mewn sawl sefydliad Addysg Uwch, gan archwilio safonau academaidd a thrylwyredd hyfforddiant athrawon. Mae ei ddisgyblaeth broffesiynol yn deillio o’i gefndir fel cyn-athletwr i Gymru a Phrydain Fawr. Heddiw, mae’n hyfforddwr Taekwondo, gan weithio gyda myfyrwyr o ddechreuwyr hyd at gystadleuwyr lefel ryngwladol. Yn frwdfrydig dros yr awyr agored, mae Gary yn mwynhau padlo fyrddio yng Ngogledd Cymru a sgïo yn Alpau Ffrainc gyda’i deulu.
Ymunodd Rebecca â Choleg Cambria ym mis Hydref 2016 fel Darlithydd Sgiliau, gan symud ymlaen i fod yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) ym mis Medi 2022. Mae hi’n darlithio ar y rhaglen TAR, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr Addysg Bellach, ac mae hefyd yn darlithio ar y radd BA (Anrh.) Astudiaethau Plentyndod a Llencyndod, lle mae ei harbenigedd mewn ysgrifennu academaidd ac ymchwil yn cefnogi dysgwyr ar draws disgyblaethau.
Cyn symud i addysg, treuliodd Rebecca bron i 12 mlynedd yn MBNA Europe Bank mewn amrywiaeth o swyddi gan gynnwys addysg a hyfforddiant. Mae’r cefndir corfforaethol hwn yn rhoi persbectif ymarferol, cadarn iddi ar ddatblygiad proffesiynol ac yn llywio ei dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr yn yr ystafell ddosbarth.
Mae gan Rebecca BA (Anrh.) mewn Llenyddiaeth Saesneg, MA mewn Ysgrifennu Beirniadol a Chreadigol, MA mewn Iaith Saesneg, a TAR. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau Doethuriaeth Addysgol (EdD), lle mae ei hymchwil yn defnyddio ymholiad naratif Bakhtinaidd i archwilio sut mae darlithwyr galwedigaethol yn llunio ac yn dehongli eu profiadau llythrennedd, gan archwilio’r tensiynau rhwng disgwyliadau polisi ac ymarfer proffesiynol mewn Addysg Bellach. Mae’r gwaith hwn wedi’i wreiddio ym mhrofiadau addysgu cynnar Rebecca ei hun gyda dysgwyr galwedigaethol, a diddordeb hirhoedlog yn y ffordd y mae’r rhai sy’n croesi o’r crefftau i addysgu yn llywio’r byd academaidd.
Mae ei gwaith ysgolheigaidd yn ymgysylltu â dadleuon allweddol mewn Addysg Bellach, gan gynnwys ailsefyll arholiadau TGAU Saesneg, creadigrwydd mewn addysg, profiadau dysgwyr galwedigaethol, ac anghysondebau polisïau yng Nghymru. Yn sail i waith Rebecca, mae ei chwilfrydedd dwfn am y byd y mae ei myfyrwyr a’i chydweithwyr yn byw ynddo, a chred yng ngwerth dysgu dilys, sy’n seiliedig ar ymarfer. Y tu allan i’r gwaith, mae hi wrth ei bodd gyda chreision, caws, bisgedi, a Radio 4.
Dechreuodd Hannah ei gyrfa mewn addysg gynradd, lle treuliodd bum mlynedd fel athrawes Cyfnod Allweddol 2 ac Arweinydd Darllen ysgol gyfan ar ôl graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) a TAR Cynradd. Wrth addysgu, cwblhaodd radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol gyda rhagoriaeth, gan ganolbwyntio ar effaith gadarnhaol darllen er pleser, yn enwedig ar y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Ymunodd Hannah â Choleg Cambria yn 2022 fel Darlithydd Astudiaethau Plentyndod. Yn ystod ei hamser yn y coleg, mae wedi parhau â’i datblygiad proffesiynol trwy gwblhau TAR ac mae bellach yn Gymrawd Addysg Uwch (FHEA). Ers hynny mae ei rôl wedi datblygu i arwain y rhaglenni Astudiaethau Plentyndod, lle mae’n addysgu ystod o fodiwlau, yn cydlynu traethodau ymchwil mawr ac yn goruchwylio gweinyddiaeth rhaglenni.
Mae Hannah yn angerddol iawn am greu amgylcheddau lle gall dysgwyr ffynnu. Mae hi’n mwynhau rhannu ei harbenigedd mewn dylunio cwricwlwm a gofal bugeiliol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr o fewn y sector astudiaethau plentyndod.
Mae gan Lyndsey dros 25 mlynedd o brofiad Adnoddau Dynol (AD), a gafwyd yn bennaf o fewn sefydliadau gweithgynhyrchu byd-eang. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio gyda thimau arweinyddiaeth ledled y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Gwlad Pwyl, a’r Unol Daleithiau, gan gefnogi twf busnes trwy fentrau AD strategol a datblygu arweinyddiaeth.
Ochr yn ochr â’i rôl yng Ngholeg Cambria, mae Lyndsey yn rhedeg ei hymgynghoriaeth AD ei hun, gan ddarparu cefnogaeth AD strategol a gwasanaethau datblygu arweinyddiaeth i sefydliadau canolig eu maint. Mae ganddi BA (Anrh) mewn Llenyddiaeth Saesneg ac mae ganddi gymhwyster CIPD i lefel Cyswllt.
Yn angerddol am ddatblygu gweithwyr proffesiynol AD y dyfodol, mae Lyndsey yn mwynhau helpu dysgwyr i bontio’r bwlch rhwng damcaniaeth academaidd ac ymarfer gweithle trwy dynnu ar ei phrofiad gweithredol helaeth.
Y tu allan i’r gwaith, mae Lyndsey hoff iawn o gerddoriaeth fyw, gan fynychu nifer o gyngherddau a gwyliau bob blwyddyn. Mae hi hefyd yn mwynhau trochi mewn dŵr oer, ioga, myfyrdod, a gwyliau gyda’i phlant yn Walt Disney World, Florida.
Mae gan Helen brofiad helaeth mewn arweinyddiaeth addysgol a rheolaeth strategol, gan arbenigo mewn cymwysterau proffesiynol sy’n grymuso arweinwyr newydd ac uwch arweinwyr. Yn athrawes gymwys lawn sydd â PGCE (PcET) ac yn hyfforddwr cymwys, mae hi’n aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth (ILM) ac mae ganddi gymwysterau Lefel 7 gyda’r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol.
Cyn symud i’w swydd ddarlithio bresennol, casglodd Helen dros ddau ddegawd o brofiad strategol uwch ar draws colegau a phrifysgolion Addysg Bellach, gan ganolbwyntio’n benodol ar recriwtio myfyrwyr, derbyniadau a rheoli cwricwlwm. Mae ganddi hanes profedig o reoli timau bach a mawr ar lefelau gweithredol a strategol, yn ogystal â meithrin partneriaethau gwerth uchel gyda chyflogwyr rhanbarthol, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg uwch i ehangu llwybrau myfyrwyr.
Ar ôl llywio cymhlethdodau arweinyddiaeth uwch yn uniongyrchol, mae Helen yn dymuno rhoi’n ôl i’r gymuned broffesiynol. Mae hi wedi ymrwymo’n ddwfn i ddatblygu’r gweithlu a chefnogi dysgwyr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg. Gan gydnabod yr heriau unigryw y mae myfyrwyr sy’n oedolion yn eu hwynebu, mae hi’n ymfalchïo yn eu helpu i feithrin yr hyder i gydbwyso astudio â gofynion gyrfa a bywyd. Fel hwylusydd arbenigol a hyfforddwr deinameg ymddygiadol ardystiedig, mae hi’n cyfuno mewnwelediad academaidd â phrofiad o’r byd go iawn i greu amgylchedd cefnogol sy’n rhoi offer ymarferol i arweinwyr myfyrwyr lwyddo.
Y tu allan i’r gwaith, mae Helen wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i dwy ferch sydd wedi tyfu i fyny, mynd allan i’r theatr, teithio pryd bynnag y caiff y cyfle, a gweithio’n galed i gadw ei gardd yn edrych ar ei gorau. Mae hi’n cyfaddef ei hun ei bod yn hoff iawn Robbie Williams.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, bydd ein tîm o arbenigwyr yn hapus i’ch ateb chi. Llenwch y ffurflen isod, a byddwn yn eich ateb yn fuan.
"*" indicates required fields