Yn barod am eich gyrfa nesaf?

Uwchsgiliwch gyda
chyrsiau wedi'u cynllunio
o amgylch eich bywyd.

Darganfyddwch gwrs rhan-amser sy’n dechrau’r tymor hwn i’ch helpu i ennill sgiliau newydd, dechrau hobi newydd neu uwchraddio sgiliau ar gyfer eich gyrfa. O harddwch i sgiliau digidol mae gennym ni rywbeth i bawb.

Rhesymau pam ddylech chi ddechrau cwrs newydd…
👉Gallwch chi uwchsgilio i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygiad proffesiynol
👉I ddarganfod hobi newydd
👉Dysgu siarad Cymraeg gyda Cymraeg i Oedolion
👉Gallu helpu eich plentyn gyda Mathemateg neu Saesneg
👉Cwrdd â phobl newydd

Mae gennym ni ystod eang o gyrsiau rhan-amser yn dechrau yn ein gwahanol safleoedd drwy gydol y flwyddyn a gallwch chi hyd yn oed astudio rhai o’n cyrsiau Saesneg, Mathemateg, Digidol, TG a Chyfrifiadura yn y gymuned fel eu bod yn cyd-fynd â’ch ffordd o fyw!

Cyrsiau wedi’u hariannu*
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol (PLA) ydy darparu cefnogaeth am ddim* i chi ennill sgiliau lefel uwch, i gyrchu ystod ehangach o gyfleoedd swyddi ar lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth.

Os ydych chi’n hŷn nac 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth (gan gynnwys mewn perygl o gael eich diswyddo a charcharorion ar ryddhad undydd) yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,371 y flwyddyn*, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych o gyrchu astudiaeth ran-amser ar gyrsiau penodol.

Darganfyddwch ragor

*Os ydych yn gymwys

Mynediad i Addysg Uwch

Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn cynnig llwybr blwyddyn o hyd i astudiaeth lefel gradd. Gallai astudio ar gyfer cymhwyster Mynediad arwain at yrfa lwyddiannus gyda llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol a a dilyn gyrfaoedd newydd nad oedden nhw byth yn eu hystyried yn bosibl.

Os wnaethoch chi adael yr ysgol heb y cymwysterau arferol, fel TGAU neu Safon Uwch, yna gallai’r cwrs yma fod i chi. Mae’r rhaglenni Mynediad i Addysg Uwch yn rhad ac am ddim a’u nod ydy eich paratoi chi ar gyfer astudio yn y dyfodol, p’un ai eich bod chi’n chwilio am ffordd i gyrchu rhaglenni nyrsio, bydwreigiaeth neu radd arall yn y brifysgol. Mae gennym ni rywbeth i’ch rhoi chi ar y llwybr cywir.

Darganfyddwch y Cwrs i Chi
Ymunwch â’n cyrsiau digidol sydd wedi’u hariannu’n llawn* a gynhelir yn eich mannau cymunedol a dysgwch y sgiliau digidol i’ch helpu gyda bywyd bob dydd.

Mae cyrsiau’n cynnwys:

‘Google Suite’ fydd yn dangos i chi bopeth sydd angen i chi ei wybod am sut i ddefnyddio apiau Google yn eich bywyd bob dydd.

‘Sut i Ddefnyddio Eich Dyfais Tabled’ lle byddwch yn dysgu sut i wneud y gorau o’ch dyfais tabled.

‘Hyder Wrth Ddefnyddio Cyfrifiaduron’ fydd yn eich helpu i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio eich cyfrifiadur.
Cyrsiau Paratoi ar gyfer TGAU sydd ar Gael
Cyrsiau TGAU Saesneg a Mathemateg Ar Gael