Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid

Animal Care subject image

Os ydych chi wrth eich bodd gydag anifeiliaid ac eisiau bod yn eu cwmni bob dydd, mae cyrsiau Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid Coleg Cambria yn berffaith i chi. Mae Canolfan Gofal Anifeiliaid Llaneurgain yn gartref i dros 200 o anifeiliaid o ystod eang o rywogaethau cyffrous gan gynnwys infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid, pysgod, adar a mamaliaid.

Rhowch hwb i’ch gyrfa hyfryd gydag anifeiliaid yn ein cyfleusterau gwych a gyda’n tiwtoriaid profiadol. P’un ai eich breuddwyd yw gweithio mewn practis milfeddygol neu fod yn sŵolegydd rhyw ddydd, cewch ddarganfod y cyfle perffaith yng Ngholeg Cambria.

Cyfleusterau Gofal Anifeiliaid

Canolfan Anifeiliaid

Hannah Hancock

Hannah Hancock

Wedi astudio – Lefel 3 mewn Rheolaeth Anfeiliaid

Erbyn hyn – Cymhorthydd Llety Cŵn/Staff Uwch yn Whitley Crest Boarding Kennels, Llety Gofal Dydd Cathod a Chŵn  

“Fe wnes i wir fwynhau astudio ar gyfer y cymhwyster hwn oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwthio i fod yn well a dysgu rhagor i mi fy hun.

“Dwi wedi magu rhagor o hyder yn fy ngwaith ac wedi dysgu rhagor am yr ochr fusnes yn y swydd yr ydw i wedi’i mwynhau’n fawr, dwi wedi dysgu cymaint trwy wneud y cymhwyster hwn a dwi wedi gallu ei gymhwyso i fy ngwaith.”

Dangos Rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Wedi Astudio – Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg Safon Uwch

Ar Hyn o Bryd – Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ar gyfer y BBC

“Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly fe wnes i ddewis pynciau gwahanol i’w hastudio ar lefel Safon Uwch. Dw i rŵan yn gweithio i’r BBC fel Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion, ac fe wnaeth astudio yn Chweched Iâl roi’r hyder a’r sgiliau i mi fynd i’r brifysgol. Dw i wedi gwneud ffrindiau da, wedi cael athrawon gwych na fydda’ i fyth yn eu hanghofio, ac amser gwych yn Wrecsam!

“Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yn Iâl gyda balchder a hoffter a fydda’i fyth yn ei anghofio!”

Dangos Rhagor
Play Video about Animal care subject image
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

Oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost