Ymwelodd arweinydd PLAID CYMRU, Rhun ap Iorwerth AS, â Llysfasi yr wythnos hon i weld drosto’i hun effaith buddsoddiad mawr gwerth miliynau o bunnoedd mewn addysg amaethyddol a sgiliau gwledig.

Ymunodd Llyr Gruffydd AS, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, ag ef ar y safle diwydiannau tir. Ar yr ymweliad, cafodd weld Hwb Arloesi (Canolfan Arloesi) y coleg, gwerth £10 miliwn, sef canolfan amaethyddol o’r radd flaenaf sy’n cefnogi arloesedd, cynaliadwyedd a datblygu sgiliau ar draws y sector. Gan adeiladu ar y buddsoddiad hwn, mae […]
Rydym yn nodi cynnydd sy’n torri record yn nifer y bobl sy’n cwblhau Gwobr Dug Caeredin wrth i’r rhaglen a gydnabyddir yn rhyngwladol ddathlu ei phen-blwydd yn 70 oed

Mae’r flwyddyn garreg filltir hefyd yn arwydd o gyflawniad mawr i’r coleg, gan atgyfnerthu ei safle fel y sefydliad AB gorau yng Nghymru ar gyfer cyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin, gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill sgiliau bywyd hanfodol, hyder a gwytnwch drwy’r wobr. Mae dros 400 o ddysgwyr ar draws safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau […]
Dathlu Diwylliant, Cymuned a Chyfle Trwy Ein Digwyddiadau Culture Collective

Yn fwyaf diweddar, gwnaeth dros 100 o fyfyrwyr gymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau panel ysbrydoledig i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Trefnwyd y rhain gan Judith Alexander, Cydlynydd Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth, a Lesley Phoenix, Arweinydd Heini Cadarnhaol o dîm Profiadau Dysgwyr y coleg. Wedi’u cynnal ar safleoedd Glannau Dyfrdwy ac Iâl Wrecsam, roedd y […]
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i “saib” a blaenoriaethu eu hiechyd meddwl diolch i fenter newydd a lansiwyd gan y tîm lles

Gyda chymorth ariannol gan Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru, mae’r coleg wedi creu hyd at 1,000 o barseli hunanofal sy’n cael eu hadnabod fel “Pecynnau Mendio’r Meddwl”. Eu nod yw cysuro, tynnu sylw, a chefnogi unrhyw un sy’n orbryderus, yn teimlo’n isel neu’n ystyried hunan-niweidio. Mae’r pecynnau, y mae dysgwyr yn gallu eu personoleiddio, yn cynnwys […]
Dathlu rhagoriaeth: ymunodd y gwleidydd – Sam Rowlands AS â ni i anrhydeddu ein myfyrwyr a’n partneriaid

Cafodd Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, ei arwain o amgylch Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy fel rhan o ‘Wythnos y Colegau 2026’ Cymdeithas y Colegau, sydd eleni’n canolbwyntio ar y thema genedlaethol Sgiliau i Bawb Croesawyd Mr Rowlands i’r coleg gan Gyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg, Llinos Roberts, cyn iddo ymweld â Chanolfan Gosmetoleg newydd y coleg. Yno […]
Aeth Gweinidog Llywodraeth Cymru i ymweld â ni i weld â’i llygaid ei hun sut mae’r bartneriaeth sgiliau newydd – Yr Hwb Sgiliau Uwch – yn mynd i ail-siapio datblygiad addysg a’r gweithlu ar hyd a lled y Gogledd Ddwyrain.

Ymwelodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, â safle Ffordd y Bers Cambria yn Wrecsam, gan gyfarfod â staff a dysgwyr a chael golwg ar y cyfleusterau o’r radd flaenaf. Yn ystod ei hymweliad, gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers, a Nick […]
Mae ein darpariaeth Ceffyleg yn gadarn ar ei hynt ar ôl sicrhau partneriaeth nodedig newydd gyda British Dressage, gan ddod â phrentisiaeth a gydnabyddir yn genedlaethol i Gymru am y tro cyntaf

Mae’r cydweithrediad yn nodi cam sylweddol arall ymlaen i raglenni ceffyleg Coleg Cambria sydd wedi hen ennill eu plwyf ac yn adeiladu ar enw da cadarn o gyflwyno dysgu yn y gwaith o ansawdd uchel ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae Prentisiaeth British Dressage eisoes wedi’i chyflwyno’n llwyddiannus yn Lloegr a’r Alban ac mae […]
Mae buddsoddiad mawr newydd mewn sgiliau, addysg a thwf rhanbarthol wedi’i gadarnhau ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, wrth i ni a Phrifysgol Wrecsam gyhoeddi menter ar y cyd arloesol a gefnogir gan gyllid sylweddol gan Medr.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi datblygiad Partneriaeth Sgiliau Gogledd Ddwyrain Cymru, a elwir yn Hwb Sgiliau Uwch. Bydd yr hwb yn newid y ffordd y mae addysg a sgiliau’n cael eu cyflwyno ar draws y rhanbarth, gan gefnogi cynlluniau ar gyfer system drydyddol integredig wedi’u siapio gan alw cyflogwyr a blaenoriaethau rhanbarthol. Bydd yr Hwb […]
Mae prentis o Wrecsam wedi cael eu dewis fel un o ddim ond 20 person ifanc yn y DU – a dim ond 2 o Gymru – i gynrychioli’r wlad mewn prosiect dyngarol rhyngwladol yn Ghana.

Bydd Georgia Ellams, Prentis Gradd sydd ar ei blwyddyn gyntaf yng Nghanolfan Brifysgol Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, yn teithio i Accra y Nadolig yma ar ôl cael ei dewis i gwblhau Gwobr fawreddog Sgowtiaid y Byd, un o’r anrhydeddau rhyngwladol uchaf ym mudiad y Sgowtiaid. Mae Georgia, o Wrecsam, yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Sant […]
Croesawyd arweinwyr ADDYSG o bob rhan o’r DU ac Ewrop i Wrecsam wrth i ni gynnal cynhadledd ryngwladol nodedig wedi’i phweru a’i chyflwyno gan ein myfyrwyr.

O arlwyo a chynhyrchu cyfryngau i ymgysylltu â chynrychiolwyr, roedd dysgwyr yn ganolog i lwyddiant Cynhadledd Ryngwladol College Alliance, gan ennill profiad uniongyrchol o weithio yng nghanol digwyddiad byd-eang mawr. Cafodd y gynhadledd ei chynnal dros ddeuddydd ar safle Iâl, ac roedd dros 90 o bobl yn bresennol o ar hyd a lled y DU […]