Sgiliau newydd yn dechrau yma
Cyrsiau rhan-amser yn dechrau drwy'r flwyddyn
Cofrestrwch rŵan ar gwrs rhan-amser sy'n dechrau'n fuan!
Rydyn ni’n darparu ystod eang o gyrsiau i helpu i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth i roi hwb i’ch gyrfa neu ddod o hyd i hobi newydd. O drefnu blodau i weldio mae gennym rywbeth i bawb.
Pam ddylech chi ddechrau cwrs newydd?
Eisiau uwchsgilio i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygiad proffesiynol
Eisiau codi hobi newydd
Anelu at ddyfodol mwy disglair trwy astudio cymhwyster uwch neu radd
Eisiau dysgu rhywbeth newydd gyda chwrs rhan-amser
Dysgu siarad iaith newydd
Gwella eich sgiliau mathemateg neu Saesneg i helpu plentyn gyda gwaith ysgol
Mae ein tîm Sgiliau i Oedolion hefyd yn darparu cyrsiau ar ein safleoedd neu yn y gymuned i helpu oedolion i wella eu sgiliau Mathemateg, Saesneg a TG.
Cyrsiau am ddim
Gellir ariannu rhai o’n cyrsiau* drwy Gyfrif Dysgu Personol, os ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth yn ennill llai na £34,303 y flwyddyn, neu os ydy’ch swydd mewn perygl, mae’n ffordd wych o gyrchu cyllid ar gyfer astudio rhan-amser ar gyrsiau penodol.
Ewch i’n tudalen Cyfrif Dysgu Personol i ddarganfod rhagor neu wirio’ch cymhwysedd.
*Yn amodol ar chymhwysedd
Dysgu Cymraeg
Mae dysgu Cymraeg trwy gwrs rhan-amser yn ffordd wych o feithrin hyder, cwrdd â phobl newydd, a chysylltu’n ddyfnach â’r gymuned a’r diwylliant lleol. P’un a ydych chi’n astudio yn un o’n safleoedd neu o fewn y gymuned, gallwch chi fwynhau amgylchedd cyfeillgar a chefnogol sy’n cyd-fynd â gwaith, teulu a bywyd bob dydd. Ni waeth beth ydy eich lefel, gall cymryd y cam cyntaf i ddysgu Cymraeg ddatgloi cyfleoedd newydd a’ch helpu chi i deimlo’n fwy cysylltiedig â Chymru a’i threftadaeth.
Cliciwch yma i ddarganfod rhagor.
Ein Safleoedd
Cymerwch gip ar ein safleoedd mewn 3D drwy ddewis un o’r delweddau isod!
Os oes gennych chi benset VR, gallwch chi weld y daith mewn rhithrealiti.






