main logo

Gofal plant

A childcare apprentice at The Homestead supervising two children playing with water

Ydych chi wedi bod eisiau gweithio gyda phlant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau? Mae gyrfa yn un o’r sectorau sy’n tyfu cyflymaf yn y DU i chi. Gallwch chi ddysgu sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu a dysgu ar lefelau amrywiol gan gynnwys gofal plant, meithrinfeydd, addysg, neu wrth wneud gwaith ieuenctid neu elusennol.

Mae cyrsiau Gofal Plant Coleg Cambria yn seiliedig ar waith ymarferol a theori, gan ganolbwyntio ar brofiad gwaith. Byddwch yn cael cymorth ar bob cam gan ein tiwtoriaid/aseswyr arbenigol, a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gofalu am blant yn ogystal â’u helpu nhw i dyfu a dysgu.

Prentisiaethau Sylfaen
Lefel 2

Prentisiaethau
Lefel 3

Mae pob prentisiaeth yn cynnwys...
  • Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
  • Cymhwyso Rhif
  • Cyfathrebu
Mae sawl ffordd y gallwch ddechrau prentisiaeth, gallwch gael cyflogaeth eich hun neu gallwch chwilio trwy ein swyddi gwag, neu siarad â’n tîm ymroddedig.  Rydym yma i’ch helpu chi i lwyddo, pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu sy’n iawn i chi.

Ydych chi'n barod i ddarganfod rhagor a dod o hyd i'ch prentisiaeth berffaith?

Ydych chi'n Gyflogwr ac eisiau darganfod rhagor am brentisiaethau?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Y Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost