Bydd cymwysterau NEWYDD gan Ganolfan Brifysgol Cambria yn Llysfasi yn cefnogi dyfodol ffermio yng Nghymru

Datgelodd Coleg Cambria raglenni Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) wedi’u hanelu at y genhedlaeth nesaf o reolwyr fferm, bugeiliaid, ffermwyr, ac arweinwyr yn y sector. Wedi’i leoli ar safle Llysfasi’r coleg, ger Rhuthun – lle’r agorwyd yr Hwb Arloesi gwerth £10m yn ddiweddar a chyflwyno cynlluniau ar gyfer adeilad llety myfyrwyr […]
DATHLODD CANOLFAN Brifysgol Cambria lwyddiannau dysgwyr addysg uwch mewn seremoni raddio ddisglair

Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda Glanrafon y coleg yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, a’i fynychu gan 33 o fyfyrwyr oedd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol. Ymunwyd â nhw gan ddarlithwyr, ffrindiau a theulu â nhw, a’u croesawu gan Emma Hurst, Deon Addysg Uwch a Mynediad i Addysg Uwch, ynghyd ag Arweinydd […]
Yn ddysgwr Lefel 3 mewn Chwaraeon Mae HARRY ASHFIELD wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam tan ddiwedd tymor 2026/27 gyda’r dewis i ychwanegu blwyddyn arall ato

Yn ddysgwr Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg Cambria (Safle Iâl) a chyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Darland fe enillodd Chwaraewr y Flwyddyn Academi Bob Clark ar gyfer tymor 2023/24 ar ôl creu argraff yn nhîm o dan 18 Nick Chadwick. Gan adeiladu ar ei berfformiadau’r tymor diwethaf mae’r chwaraewr canol cae creadigol wedi bod yn […]
Ein Dysgwyr a’n Partneriaid Diwydiant yn rhagori yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Sicrhawyd 11 i gyd – tri aur, pump arian a thri efydd. Yn ennill y medalau aur oedd Jo Arrowsmith ar gyfer Melino CNC, Oliver Evans (Aircamo Aviation Ltd) ar gyfer Peirianneg Awyrennau a’r ymgeisydd Gwaith Metel yn y Diwydiant Adeiladu, James Noller. Hefyd yn cyrraedd y podiwm oedd: Tomos Roberts (CNC Milling), Mark Wright […]
Mae COLEG CAMBRIA yn cyflwyno ei waith gyda hyrwyddo a chefnogi lleisiau a hawliau ei staff a’i ddarlithwyr yn ystod Wythnos Caru Undebau

Dechreuodd Wythnos Caru Undebau ar ddydd Llun (10 Chwefror) sef ymgyrch i ddathlu’r symudiad undebau llafur a’r pum miliwn a mwy o bobl yn y DU sy’n aelodau ohonynt. Mae’r coleg sydd gyda safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain wedi cael ei ganmol am ei ddiwylliant o ran Partneriaeth Gymdeithasol sy’n sicrhau bod […]
MAE RHAGLEN brentisiaeth newydd arloesol yn hybu sgiliau ac uchelgeisiau gweithwyr adeiladu

Lansiwyd Prentisiaeth Gradd Adeiladu gyntaf Cymru wedi’i hariannu’n llawn ym mis Medi ac mae eisoes yn helpu dysgwyr i osod y sylfeini ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y myfyrwyr yn treulio dwy flynedd yng Ngholeg Cambria cyn cwblhau’r ddwy flynedd olaf ym Mhrifysgol Wrecsam. Yn cynrychioli rhai o brif gwmnïau’r sector, ac […]
Mae’r rhaglen Camau Cefnogol yn Trawsnewid Lles Myfyrwyr drwy Bartneriaeth Sir y Fflint a Choleg Cambria

“Mae wedi gwneud i mi deimlo fy mod i’n gallu siarad efo rhywun, a dwi wedi dysgu peidio â photelu fy nheimladau. Dwi’n teimlo llai o straen ac yn llai gobryderus.” Daw’r geiriau o’r galon hyn gan un o fwy na 300 o unigolion sydd wedi manteisio ar y rhaglen Camau Cefnogol, menter iechyd meddwl […]
Jack Sargeant, o Brentis i Weinidog y Llywodraeth – Taith Cylch Llawn

Cafodd y gweinidog sy’n gyfrifol am bolisi prentisiaethau Cymru gyfle yr wythnos hon i ddychwelyd i’r coleg lle bu ef ei hun yn astudio fel prentis, i ddathlu Wythnos Prentisiaethau a thynnu sylw at fanteision y llwybr hwn at gyflogaeth. Ar ôl gadael yr ysgol yn 17 oed, bu’r Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, yn astudio […]
PROFODD myfyrwyr sy’n caru gwyddoniaeth i fod yn gystadleuwyr gwerth eu halen mewn twrnamaint ffiseg cenedlaethol

Cafodd dysgwyr o Goleg Cambria ganlyniadau syfrdanol yn Olympiad Ffiseg Prydain (BPhO), sef cyfres o gystadlaethau sy’n cael eu goruchwylio gan ddarlithwyr enwog o brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Cafodd tîm o saith oedd yn cynrychioli Chweched Iâl yn Wrecsam ddau ganmoliaeth, tair medal efydd, un arian ac un aur, a enillwyd gan Lois Jones, o […]
Mae cynigion wedi’u cyflwyno ar gyfer adeilad llety myfyrwyr 50 ystafell wely mewn coleg tir blaenllaw

Mae Coleg Cambria yn bwriadu datblygu ei gampws Llysfasi ymhellach ar ôl cwblhau canolfan amaethyddiaeth ac addysg gwerth £10m, sy’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, wal ddringo, labordai, siop goffi, mannau cyfarfod, atriwm, a hybiau llesiant ac AU. Wedi’i ddylunio gan TACP Architects, byddai’r datblygiad newydd yn cael ei adeiladu gan Read Construction – dau gwmni […]